Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 21 Medi 2016.
Wel, rwy’n credu bod nifer o atebion i’r cwestiwn hwnnw, Lywydd. Yn gyntaf oll, mae mwy nag un ffordd y gallwn fynd i’r afael â’r bwlch ariannu. Mae hon yn un, ond mae yna ffyrdd eraill, ac rydym yn rhoi camau eraill ar waith yn y maes. Ac yn ail, yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’n rhaid i ni weithredu o fewn yr hyn sydd ar gael i ni. Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y banc buddsoddi newydd, ac rwy’n credu, yn hytrach na gresynu at yr hyn nad yw’n gallu ei wneud, rwy’n gobeithio y byddwn yn canolbwyntio ar y llawer o bethau da y bydd yn gallu eu cyflawni.