<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:40, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Lywydd, yr hyn a gyhoeddais yw hyn: byddwn yn ymestyn y cynllun. Pe bai’r Aelod yn gwybod fod ganddo fil o £100 i’w dalu y flwyddyn nesaf a fy mod i’n cyflwyno cynllun sy’n dweud wrtho na fyddai angen iddo dalu’r £100 hwnnw wedi’r cyfan, rwy’n credu y byddai’n ei ystyried yn doriad yn y rhwymedigaeth y byddai’n rhaid iddo ei chyflawni fel arall, a dyna’n union rydym wedi’i wneud. Hefyd, yn ogystal ag ymestyn y cynllun am flwyddyn arall, cyhoeddais y bydd yn cael ei wneud yn barhaol wedi hynny. Felly, mae’n doriad treth parhaol i fusnesau bach yng Nghymru, a byddwn yn defnyddio’r 12 mis nesaf i weithio gyda’r sector busnesau bach ac eraill i weld a oes ffyrdd y gellid gwella’r cynllun ymhellach i gynnig rhagor o gymorth eto. Yn sicr, gall y syniadau y mae’r Aelod yn eu cyflwyno gyfrannu at y drafodaeth honno.