Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 21 Medi 2016.
Fe wnaf fy ngorau gyda hwn felly: yn dilyn ailbrisiad ardrethi busnes gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a ddaw i rym ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf, mae rhagfynegiadau cyfredol gan y sector manwerthu a busnesau eraill yn dangos y gallai’r puntdal ardrethi a ragwelir ar gyfer Cymru lamu i fyny’n syfrdanol 10 y cant, a fyddai’n golygu mai Cymru fyddai’r lle sydd â’r dreth uchaf a’r lle lleiaf deniadol i wneud busnes ym Mhrydain os bydd eich Llywodraeth yn penderfynu gwneud iawn am y gwahaniaeth a gollir mewn refeniw drwy newid y lluosydd ardrethi busnes unffurf. Yn rhyfedd iawn, gallem fod mewn sefyllfa lle bydd gennym y dreth uchaf a’r cyfraddau gwacter busnes uchaf yn y DU gyfan. A allwch gadarnhau heddiw na fyddwch yn newid y gyfradd fusnes unffurf mewn ymateb i ostyngiad posibl yn refeniw’r Llywodraeth?