<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:42, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, bydd yn rhaid i’r Aelod aros nes 30 Medi, fel pawb arall, i weld beth fydd ailbrisiad ardrethi annomestig Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ei ddweud mewn gwirionedd yn hytrach na’r hyn y mae pobl yn dyfalu y gallai ei ddweud. Bydd yr Aelodau yma yn ymwybodol nad cynyddu swm yr arian sy’n cael ei gymryd gan fusnesau mewn unrhyw fodd y mae ailbrisio yn ei wneud, ond sicrhau yn hytrach fod dosbarthiad y cyfraddau hynny’n adlewyrchu’r set ddiweddaraf o amgylchiadau economaidd. Fe welwn beth fydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio i’w ddweud ar 30 Medi.