<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:49, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch o glywed yr Aelod yn cydnabod y gwaith ardderchog a wnaeth yr UE yn y maes hwn yn arwain rhai o’r gwelliannau amgylcheddol a welsom ar draws y Deyrnas Unedig. Yr Undeb Ewropeaidd oedd yn gyfrifol am lusgo’r Deyrnas Unedig i gyflawni rhai o’r camau gweithredu hynny sydd wedi gwneud cymaint i wella ein hamgylchedd lleol. Heb yr Undeb Ewropeaidd—mae’n gwneud pwynt pwysig, wrth gwrs—bydd yn rhaid i ni gynllunio ein dulliau polisi ein hunain yn y maes hwn, ac mae’n iawn i nodi y bydd hynny’n rhywbeth y bydd angen i ni ei wneud yn y dyfodol.