Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i chi, Weinidog; diolch i chi am gydnabod y gallai fod rôl yn y Cynulliad i’r ddadl honno. Nodaf hefyd fod rhan fawr o ddeddfwriaeth yr UE yn y maes hwn—mae’n ddrwg gennyf am rygnu ymlaen ar y pwynt hwn—wedi cael ei hysgogi gan yr Almaen a Denmarc, dwy wlad nad oedd ganddynt lawer o safleoedd tirlenwi ar gael. Yn y DU, mae gennym lawer o chwareli a phyllau gro nas defnyddir, felly nid oes angen i ni gydymffurfio â’r targedau hyn, nac oes? Beth yw eich barn ar hynny?