<p>Panel Cynghori Allanol i Adael yr UE</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:52, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi nifer o gamau ar waith i ad-drefnu ei hun yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin. Mae gennych y grŵp cynghori allanol hwn. Rwy’n credu eich bod chi eich hun, Weinidog, yn cadeirio is-bwyllgor y Cabinet ar drafodaethau’r UE, neu mae yna rôl rydych yn ei chwarae yn y Llywodraeth drwy’r is-bwyllgor. A allwch ddweud wrthym sut y bydd y cyngor a allai ddod gan y bwrdd cynghori allanol yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, o ystyried eich bod wedi nodi egwyddorion clir iawn ym mis Mehefin eleni, er ein bod wedi gweld rhai o’r egwyddorion hynny’n mynd ychydig yn fwy hyblyg wrth i’r haf fynd rhagddo? Ond cyflwynodd y Prif Weinidog chwe egwyddor allweddol. Felly, byddai’n ddiddorol gwybod sut y bydd yr egwyddorion hynny yn cael eu haddasu, eu diwygio neu eu cadarnhau wrth ddisgwyl am y cyngor gan y bwrdd cynghori.