Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i Andrew Davies am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n aelod o is-bwyllgor y Cabinet, ond mae’n cael ei gadeirio gan y Prif Weinidog. Bydd y Prif Weinidog yn mynychu cyfarfod cyntaf y panel cynghori, ond byddaf yn ei gadeirio ar ôl hynny, felly fy nghyfrifoldeb i fydd gwneud yn siŵr fod y cyngor y mae’r panel yn ei roi yn cael ei gyfleu’n uniongyrchol i is-bwyllgor y Cabinet. Yn y modd y gofynnodd Steffan Lewis, bydd y grŵp cynghori yn cael gwybod beth yw safbwynt y Llywodraeth—y chwe phwynt a’r ffordd y mae’r ddadl wedi esblygu dros yr haf. Byddant yn rhoi eu cyngor yn y cyd-destun hwnnw, ond bydd yn broses iteraidd a’r peth allweddol am y panel fydd y ffaith fod gennym ni yn y Llywodraeth fynediad at beth o’r cyngor mwyaf arbenigol a gwybodus y gallwn ei gael, er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym gymaint o ddylanwad ag y bo modd mewn trafodaethau yn y DU, a’n bod yn gallu gwneud yn siŵr fod buddiannau Cymru’n flaenllaw yn y trafodaethau hynny bob amser.