Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 21 Medi 2016.
Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi, os yw’r panel cynghori hwn yn cael ei stwffio’n llawn o bobl wangalon a oedd o blaid aros yn yr UE, mai cyfyngedig iawn fydd ei werth. Felly, dylid sicrhau bod rôl i bobl a oedd o blaid gadael yr UE fel fi ac Andrew R.T. Davies, er enghraifft, sydd â golwg fwy optimistaidd ar y dyfodol nag ambell un o’r rhai rwyf newydd eu crybwyll. Er ein bod efallai’n cymryd rhan yn yr hyn y gallwn ei alw’n wrthdaro adeiladol yn y Cynulliad hwn, gyda chorff fel y panel hwn, gallem gymryd rhan mewn rhywfaint o ymwneud adeiladol mewn gwirionedd. A minnau wedi bod yn aelod o Gyngor Gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd, yn fy achos i—ac yn wir, yn achos Huw Irranca-Davies mae’n debyg—mae yna Aelodau yn y tŷ hwn a allai chwarae rhan adeiladol iawn ar y panel hwn.