<p>Targedau Awdurdodau Lleol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 1:58, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru i ddiogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag effaith y toriadau yng nghyllideb Llywodraeth y DU, mae Torfaen, fel pob awdurdod lleol yng Nghymru, yn gorfod gweithio’n galed iawn mewn amgylchiadau ariannol heriol iawn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn lleol. A wnewch chi, felly, ymuno â mi i longyfarch cyngor Torfaen ar eu hadroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn disgrifio’r cyngor fel un sydd â gweledigaeth strategol glir, wedi ei hysgogi gan arweinyddiaeth agored a chynhwysol, ac sy’n mynd ati i ddatblygu ei drefniadau corfforaethol er mwyn cyflawni canlyniadau gwell?