<p>Targedau Awdurdodau Lleol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 21 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:59, 21 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am hynny. Gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â’r hyn a ddywedodd ar ddechrau ei chwestiwn. Bydd unrhyw Aelod yma sydd wedi gweld yr adroddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sy’n cofnodi’r hyn y mae’n ei alw’n effaith eithriadol 11 mlynedd olynol o doriadau i gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn cydnabod yr hyn a ddywedodd am y pwysau y mae hynny’n ei roi ar awdurdodau lleol.

Roeddwn yn falch iawn wir o weld adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd yn dilyn adroddiad cadarnhaol iawn ar Fro Morgannwg. Dywedodd Hugh Vaughan Thomas, pennaeth Swyddfa Archwilio Cymru, am Dorfaen fod hwn yn

‘adroddiad cadarnhaol iawn y dylai Cyngor Torfaen fod yn falch ohono.’

Rwy’n falch iawn o dalu teyrnged i arweinyddiaeth y cyngor a’r gwaith caled iawn y mae’r rhai sy’n gweithio ar ei ran yn ei wneud bob dydd i ddarparu gwasanaethau i bobl Torfaen.