Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 21 Medi 2016.
Rwy’n croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth heddiw mewn perthynas ag ymestyn gostyngiadau’r dreth gyngor, ac roeddwn yn falch o gynnal lansiad adroddiad Cyngor ar Bopeth ar ddyledion y dreth gyngor, a grybwyllwyd eisoes yn y Siambr heddiw. Clywsom am lawer o arferion da i gynorthwyo unigolion sy’n cael trafferth gyda dyledion y dreth gyngor ac i gynorthwyo cynghorau i gasglu’r dreth gyngor. A fydd yn cytuno i adolygu argymhellion yr adroddiad a rhoi camau ar waith lle y gall i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd ynddo?