1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 21 Medi 2016.
5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu llywodraeth leol yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0026(FLG)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Byddwn yn parhau i gyllido llywodraeth leol drwy gyfuniad o’r setliadau blynyddol a grantiau penodol. Mae awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn meddu ar bwerau annibynnol i godi refeniw a chyfalaf i ariannu eu gweithgareddau.
Diolch i chi am hynny. Gwrandawais ar eich ateb i Gareth Bennett ac fe ddywedoch mai chi sy’n nodi’r blaenoriaethau a bod llywodraeth leol yn gyfrifol am eu gweithredu fel y gwelant orau yn eu hardal leol. Fodd bynnag, Weinidog, hoffwn ddeall pa allu sydd gennych i ddylanwadu ar degwch y modd y caiff cyllid ei ddefnyddio drwy awdurdod lleol. Un o’r gwasanaethau sinderela yn y pen draw yw gorfodaeth. Nid yw awdurdodau lleol yn hoffi gorfodi am eu bod yn dweud nad oes ganddynt y staff. Maent hefyd yn poeni y bydd pethau’n mynd i apêl ac felly y byddant yn gorfod ymladd brwydr gyfreithiol hir a chostus iawn. Ond gall hynny arwain at feysydd enfawr o annhegwch. Felly, er enghraifft, yn Sir Benfro, mae gennyf o leiaf dair cymuned gyda nifer o filltiroedd rhyngddynt ac mae pob un ohonynt wedi gweld safleoedd anghyfreithlon i Sipsiwn a Theithwyr yn cyrraedd, maent wedi cael eu dychryn a’u brawychu, a’u gorfodi allan o’u cartrefi. Mae’n sefyllfa hollol erchyll. Rwyf wedi bod yn gweld pawb, y Gweinidog blaenorol, yr heddlu, ond yn bennaf, y cyngor sir, oherwydd mae ganddynt alluoedd gorfodi. Fodd bynnag, maent yn gwrthod camu ymlaen am eu bod yn dweud nad oes ganddynt yr arian, maent yn dweud eu bod angen yr arian ar gyfer gwasanaethau hanfodol eraill ac eto rydym yn effeithio’n anghymesur ar grwpiau eraill o bobl. Rwy’n credu ei bod yn sefyllfa hynod o annheg a hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio ei phwerau i sicrhau bod cynghorau lleol yn ystyried yr holl drigolion yn eu hardaloedd yn hytrach na gofalu am leiafrifoedd a warchodir yn unig, oherwydd, credwch fi, pe baech chi neu fi’n ceisio gwneud rhywbeth mor anghyfreithlon â hyn, byddai popeth yn disgyn ar ein hysgwyddau fel tunnell o frics, a’r bobl druenus hyn—mae lefel y brawychiad yn arswydus.
Wel, mae nifer o elfennau gwahanol yn yr hyn y mae’r Aelod wedi’i ddweud. Nid oes gennyf unrhyw ffordd o wybod beth yw’r sefyllfa mewn perthynas â’i phwynt olaf. Byddwn yn siomedig iawn yn wir pe bai’n awgrymu bod rhai grwpiau yn ein cymdeithas yn cael eu trin yn wahanol i eraill. Nid dyna’r ffordd y dylai pethau fod, fel y gŵyr.
Mae ei phwynt cyffredinol yn mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais wrth ateb Lynne Neagle—mewn cyfnod eithriadol o 11 mlynedd o gwtogi, mae awdurdodau lleol yn wynebu canlyniadau’r penderfyniadau a wnaed yn ffôl ac yn wallus er mwyn mynd ar drywydd gwleidyddiaeth caledi ac economeg caledi, a’r canlyniadau y mae hynny wedi eu creu i wasanaethau cyhoeddus. Mewn perthynas â gwasanaethau llywodraeth leol, mae yna wasanaethau sy’n statudol ac sy’n rhaid i lywodraeth leol eu darparu. Mae’n anochel bod mwy o wasgu, fel y dangosodd adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, ar y rhannau o’r gyllideb lle nad yw awdurdodau lleol yn wynebu’r un lefel o rwymedigaeth statudol. Rwy’n cydnabod, fodd bynnag, yr hyn y mae’n ei ddweud am freuder rhai gwasanaethau diogelu’r cyhoedd mewn rhannau o Gymru, ac rwy’n gobeithio y bydd gennyf rywbeth i’w ddweud am hynny pan fyddaf yn gwneud fy natganiad ar 4 Hydref.
Rwy’n croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth heddiw mewn perthynas ag ymestyn gostyngiadau’r dreth gyngor, ac roeddwn yn falch o gynnal lansiad adroddiad Cyngor ar Bopeth ar ddyledion y dreth gyngor, a grybwyllwyd eisoes yn y Siambr heddiw. Clywsom am lawer o arferion da i gynorthwyo unigolion sy’n cael trafferth gyda dyledion y dreth gyngor ac i gynorthwyo cynghorau i gasglu’r dreth gyngor. A fydd yn cytuno i adolygu argymhellion yr adroddiad a rhoi camau ar waith lle y gall i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd ynddo?
Diolch i Jeremy Miles am dynnu sylw at yr adroddiad ‘Tegwch i bawb’ gan Cyngor ar Bopeth, adroddiad hynod o bwysig yr wyf yn ei gymryd o ddifrif. Ceir tri argymhelliad penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac mae dau ohonynt yn berthnasol i fy maes cyfrifoldeb fy hun. Y cyntaf oedd parhau â’n cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor. Mae’n gynllun drud. Mae’n costio £244 miliwn bob blwyddyn, ac rwy’n falch o bob un o’r punnoedd hynny gan eu bod yn mynd tuag at helpu’r teuluoedd tlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o benderfyniad y Cynulliad hwn i gefnogi’r cynllun hwnnw, a’r cyferbyniad clir iawn y mae’n ei amlygu rhwng sefyllfa teuluoedd yn Lloegr, lle mae miliynau ohonynt yn gorfod talu arian tuag at y dreth gyngor ar adegau pan fo’u budd-daliadau a’u gallu i wneud hynny wedi ei rewi a’i beryglu ymhellach. Felly, roeddwn yn falch iawn yn wir o allu gwneud y cyhoeddiad heddiw y bydd cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor cenedlaethol yn parhau am flwyddyn arall, ac y byddaf yn trafod ei barhad wedi hynny gyda chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn tynnu sylw, yn fy marn i, at dystiolaeth sy’n peri pryder ynglŷn â defnyddio beilïaid. Rwyf eisiau dweud yn glir na ddylid defnyddio beilïaid ac eithrio pan fetho popeth arall, y dylid dihysbyddu camau gweithredu eraill yn gyntaf bob amser, a bod angen i awdurdodau cyhoeddus sydd â chontractau â beilïaid feddwl yn ofalus iawn ynglŷn â phwy y maent yn ei gontractio. Rwy’n bwriadu comisiynu gwaith ymchwil newydd ar y ffordd y mae’r pethau hyn yn digwydd yng Nghymru er mwyn gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i geisio gwneud yn siŵr, pan fo pobl yn cael anhawsterau i’r graddau hyn, ein bod yn ymateb iddynt yn y modd mwyaf sensitif posibl.