Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 21 Medi 2016.
Mae Plaid Annibyniaeth y DU yn enwog am eu halergedd i ffeithiau a barn arbenigol. Felly, gadewch i ni roi ychydig o ffeithiau i UKIP am ysgolion gramadeg. Yn gyntaf, nid yw ysgolion gramadeg yn hyrwyddo symudedd cymdeithasol. Nid oeddent yn gwneud hynny yn y 1950au ac nid ydynt yn gwneud hynny yn awr. Mae’r Athrofa Addysg wedi dangos bod rhaniad cymdeithasol, wedi’i fesur yn ôl cyflogau, yn fwy mewn ardaloedd o Loegr sy’n dethol eu disgyblion nag yn yr ardaloedd sy’n cynnwys ysgolion cyfun. Yn syml, mae ysgolion gramadeg yn cadarnhau rhaniad cymdeithasol.
Yn ail, nid yw ysgolion gramadeg yn rhoi mynediad i blant o gefndiroedd tlotach at addysg o’r radd flaenaf, gan nad yw’r plant hynny’n mynd i ysgolion gramadeg yn y lle cyntaf. Dim ond 2.6 y cant o ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yn Lloegr sy’n cyrraedd ysgolion gramadeg. Mae hynny o gymharu â thua 15 y cant mewn ysgolion cyfun. Roedd yn wir yn y 1950au ac mae’n wir heddiw.
Yn drydydd, ni fu erioed yn oes aur ar addysg ysgolion gramadeg y gallem ddychwelyd ati, hyd yn oed pe baem eisiau gwneud hynny. Yn 1959, ar anterth addysg ddetholus, pan oedd ysgolion gramadeg yn addysgu’r 20 y cant mwyaf disglair, methodd bron i 40 y cant o ddisgyblion ysgolion gramadeg gael mwy na thri lefel O. Dim ond 0.3 y cant o blant dosbarth gweithiol a lwyddodd i gael dau lefel A—0.3 y cant. Byddai unrhyw ysgol yng Nghymru a fyddai’n cynhyrchu canlyniadau o’r fath yn dod yn destun mesurau arbennig yn go gyflym. Ni fu unrhyw oes aur. Roedd ysgolion gramadeg yn sathru ar gyfleoedd bywyd plant tlotach yn y 1950au ac maent yn sathru arnynt yn awr. Dyna pam nad ydym eu heisiau yng Nghymru. Ond fel y dywedais, nid yw UKIP yn ymwneud â ffeithiau, nac ydyw? Felly, gadewch i ni ofyn ychydig o gwestiynau iddynt yn lle hynny.
Y cwestiwn cyntaf: pwy fydd yn penderfynu pa ysgol mewn ardal sy’n dod yn ysgol ramadeg newydd? Ar ba feini prawf y seilir y penderfyniad hwnnw? Mae eich cynnig yn gwneud iddo swnio fel pe bai pawb sydd eisiau newid i ysgol ramadeg yn cael gwneud hynny. Rydych yn dweud ‘Rhowch hawl i blant fynd i ysgol ramadeg’. Rydych yn sylweddoli mai’r ffordd y mae ysgolion gramadeg yn gweithio yw drwy amddifadu’r hawl honno i’r mwyafrif, onid ydych?
Yr ail gwestiwn: pan wneir y penderfyniad, beth a ddywedwch wrth holl lywodraethwyr, athrawon, rhieni a disgyblion yr holl ysgolion eraill yn yr ardal er mwyn eu darbwyllo y byddai eu hysgol yn well fel ysgol uwchradd fodern? A pheidiwch â thaflu llwch i’n llygaid ynglŷn â statws uwch addysg dechnegol a galwedigaethol—ysgol uwchradd fodern fydd hi.
Y trydydd cwestiwn: sut y mae UKIP yn bwriadu gwasgu’r sector cyfrwng Cymraeg yn rhan o’r system newydd y maent am ei mewnforio o Loegr? Mewn llawer o lefydd, mae llai o ysgolion cyfrwng Cymraeg ac maent yn fwy gwasgaredig. Pa mor bell fydd UKIP yn disgwyl i blant deithio bob dydd i gael mynd i ysgol ramadeg cyfrwng Cymraeg? 20 milltir, 50 milltir, mwy? Y gwir yw nad ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i addysg Gymraeg.
Y pedwerydd cwestiwn: sut ydych chi’n argymell gorfodi’r system hon a fewnforiwyd ar awdurdodau lleol sydd â systemau trydyddol? A ydych yn cynnig y dylid gwthio ein colegau addysg bellach i’r cyrion? Faint y mae’n mynd i gostio i wrthdroi’r diwygiadau a gynlluniwyd yn ofalus yn yr ardaloedd hynny?
Mae’n ddigalon sefyll yma heddiw a chynnig gwrthddadleuon i bolisi ysgolion sombi a ddylai fod wedi marw a bod wedi’i gladdu ers amser maith bellach. Ond os oes rhaid i ni ymladd dros ddiogelu dyfodol ein plant rhag polisïau tu hwnt i’r bedd UKIP, yna fe wnawn ni hynny. Mae Llafur Cymru yn parhau’n ymrwymedig i bolisi ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi ei seilio ar ffeithiau a thystiolaeth. Rydym yn ceisio dysgu gan y goreuon. Nid yw’r system ysgolion sy’n perfformio orau ym Mhrydain yn rhan o system ddetholus Caint; fe gewch hyd iddi yn yr Alban, heb yr un ysgol ramadeg yn perthyn iddi. Yn gyson, mae’r system sy’n perfformio orau yn Ewrop ac yn y byd i’w gweld yn y Ffindir—system gyfun gant y cant.
Nid yw’r polisïau a fydd yn gwella ein system ysgolion i’w cael drwy deithio drwy amser i’r gorffennol. Maent gennym yn awr: yn hyrwyddo rhagoriaeth drwy ein consortia a thrwy Her Ysgolion Cymru, yn codi disgwyliadau athrawon drwy’r cytundeb newydd, yn mynd i’r afael â’r bwlch rhwng y lleiaf ariannog a’r gweddill drwy’r grant amddifadedd disgyblion a Dechrau’n Deg. Rydym yn galw am, ac yn gweithio tuag at system sy’n cyflawni mwy o drylwyredd a safonau gwell i bawb, nid i rai yn unig, oherwydd mae pob plentyn yn haeddu hynny. Gall UKIP ddweud yr hyn y maent yn ei ddweud yn y cynnig hwn oherwydd un peth yn unig: oherwydd eu bod yn credu hyn—mae rhai yn unig sy’n haeddu; rhai ysgolion yn unig, rhai athrawon yn unig, rhai plant yn unig, ac i’r gweddill, bydd ysgol uwchradd fodern yn gwneud y tro. Rydym oll wedi gweld sut y gall rhethreg ddi-dystiolaeth UKIP niweidio gwaith cydsyniol dros ddegawdau. Mae’n bryd i bawb sy’n poeni am gydlyniant cymdeithasol a chyfiawnder cymdeithasol wneud safiad—a gwrthod y cynnig gwag hwn.