Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 21 Medi 2016.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, yn eu tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i’w blaenoriaethau ar gyfer tymor y Cynulliad hwn, yn rhestru’n gryno y manteision i addysg person ifanc o gyswllt o’r fath â’r awyr agored. Nid wyf am ailadrodd y rhestr, ond rwyf am sôn am rai enghreifftiau sy’n atgyfnerthu fy nealltwriaeth hun o fanteision y math hwn o ddysgu. Mae addysg awyr agored yn creu profiadau cofiadwy, yn datblygu arweinyddiaeth, cyfathrebu, hyder a gwaith tîm drwy ddysgu drwy brofiad. Mae’n ehangu gorwelion myfyrwyr, yn grymuso rhai a all wneud yn well mewn amgylcheddau dysgu llai ffurfiol ac yn ei gwneud hi’n bosibl datblygu ac ymgorffori ystod o sgiliau dysgu hanfodol ac ymarferol.
Mae hefyd yn hyrwyddo iechyd a lles, a hynny o ran gweithgarwch corfforol ac o ran y manteision i iechyd meddwl y gall y profiadau hyn eu rhoi. Pan edrychwn ar ardaloedd megis fy etholaeth fy hun, Cwm Cynon, gyda lefelau uchel o ordewdra, problemau iechyd meddwl ac ysmygu, gwelwn y manteision y gallai hyrwyddo mwy o gyswllt â’r awyr agored eu creu. Yn wir, efallai fod y manteision hyn i iechyd yn gweithredu ar sail hyd yn oed yn fwy sylfaenol. Ysgrifennodd academyddion yn yr Unol Daleithiau, Dr Finlay a Dr Arrietta yn ddiweddar yn y ‘Wall Street Journal’ am y genhedlaeth o blant a warchodwyd rhag cysylltiad microbaidd sy’n hanfodol ar gyfer datblygu system imiwnedd iach. Os rhwystrwn ein plant rhag chwarae a dysgu yn yr awyr agored, gall eu haddysg a’u hiechyd ddioddef.
Gall hyn hefyd greu datgysylltiad oddi wrth fyd natur, gyda chanlyniadau difrifol o ran ein hymagwedd tuag at y byd naturiol o’n cwmpas. Mae plant rhwng 11 oed a 15 oed yn treulio hanner eu bywydau effro o flaen rhyw sgrin neu’i gilydd, gan effeithio ar eu gallu i gysylltu â’r byd naturiol. Yn ogystal, mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod tri chwarter y plant yn y DU yn treulio llai o amser yn yr awyr agored na charcharorion mewn carchardai. Mae’r naturiaethwr Stephen Moss wedi siarad am ‘anhwylder diffyg natur’. Dangosodd ymchwil gan yr RSPB mai 13 y cant yn unig o blant Cymru sy’n ystyried bod ganddynt gysylltiad agos â byd natur. Mae’n is na’r Alban, Gogledd Iwerddon, a Llundain yn wir. Efallai fod yr ystadegyn yn fwy brawychus byth pan ystyriwn agosrwydd unigryw holl ardaloedd trefol Cymru â’n tirwedd wledig.
Mae dysgu yn yr awyr agored yn hyrwyddo dealltwriaeth a chyfrifoldeb amgylcheddol, ac mae’n allweddol er mwyn creu dinasyddion sydd wedi ymrwymo i egwyddorion cynaliadwyedd, a’r rheini yw’r dinasyddion sydd eu hangen arnom yn y byd yn yr unfed ganrif ar hugain er mwyn goresgyn yr heriau amgylcheddol sydd o’n blaenau. Mae gan athrawon ac addysg ffurfiol rôl bwysig i’w chwarae yn cyflawni hyn, ac mae arolygiaethau ysgol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi herio ysgolion i sicrhau bod disgyblion yn cael dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth oherwydd y manteision i ddysgwyr ac oherwydd y sensitifrwydd amgylcheddol y mae’n ei feithrin.
Ond rhaid i ni wneud mwy i newid arferion, cyfleoedd a ffyrdd o fyw na gobeithio’n unig y gall ysgolion lenwi’r bylchau drwy ychwanegu dysgu yn yr awyr agored at y wers achlysurol. Rwy’n credu y gallwn ddysgu gwersi pwysig o arfer rhagorol mewn gwledydd eraill. Mae rhai o’r gwledydd hyn wedi bod yn hyrwyddo addysg awyr agored yn gyson ers llawer hirach. Er enghraifft, sefydlodd Cymdeithas Awyr Agored Sweden ysgolion Skogsmulle a ddarparai addysg awyr agored ar y penwythnosau i blant 5-6 oed. Erbyn eu hanner canrif yn 2007, roedd un o bob pump o blant Sweden—tua 2 filiwn o blant—wedi mynychu ysgolion Skogsmulle mewn gwirionedd. Mae plant yn Sweden yn treulio rhan o bob diwrnod ysgol yn yr awyr agored, waeth beth fo’r tywydd, ac arweiniodd dull Skogsmulle at sefydlu cyn ysgolion mewn-glaw-neu-hindda, lle mae’r sefydliad yn gwbl seiliedig ar y cysyniad o addysg yn yr awyr agored. Canfu ymchwilwyr fod y plant a fynychai’r ysgolion hyn yn gallu canolbwyntio ddwywaith cystal â’u cyfoedion, eu bod yn meddu ar sgiliau echddygol gwell a bod eu lles yn fwy datblygedig.
Lledaenodd ethos a model Skogsmulle yn llawer pellach i wledydd eraill yn Ewrop, ond hefyd i Dde Korea a Libanus. Yn wir, ceir dros 2,000 o athrawon Skogsmulle yn Japan yn unig. Credaf yn gryf fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio i gywiro hyn ac wedi integreiddio dysgu yn yr awyr agored yn fwy sylfaenol yn y ffordd rydym yn addysgu ein plant. Mae dysgu gweithredol trwy brofiad yn allweddol i’n cyfnod sylfaen arloesol ac yn sail i nifer o feysydd dysgu statudol y cyfnod. Mae llawer o ysgolion yng Nghymru bellach yn elwa o ystafelloedd dosbarth awyr agored o ganlyniad i ymgyrch Llywodraeth Cymru. Gellir defnyddio’r rhain i ddarparu gweithgareddau awyr agored sy’n cynnwys profiad ymarferol o ddatrys problemau go iawn a dysgu am gadwraeth a chynaliadwyedd.
Mae’r dull hwn eisoes yn dwyn ffrwyth wrth i’r cyfnod sylfaen arwain at leihad yn y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys, gan awgrymu rhai o’r ffyrdd hanfodol bwysig y gall addysg awyr agored helpu i ryddhau potensial ein plant. Yn yr un modd, mae’r Athro Donaldson wedi siarad am y gwerth aruthrol sydd i addysg awyr agored yn y broses ddysgu. Byddwn yn awgrymu na lwyddwn i gyflawni’r pedwar diben y mae’n eu nodi ar gyfer y cwricwlwm yng Nghymru heb ddatblygu cyfleoedd sylweddol ar gyfer gweithgareddau a dysgu awyr agored gwerth chweil.
Byddwn hefyd yn awgrymu bod yna bosibiliadau i wneud rhywbeth creadigol i gyflawni’r trawsnewid hwn, yng Nghymoedd de Cymru yn enwedig. Soniais am yr heriau i iechyd yn gynharach. Mae’n bosibl iawn fod canfyddiad anghywir gan bobl nad ydynt yn dod o’r Cymoedd o dirweddau llwm, ôl-ddiwydiannol. Ond mewn gwirionedd, mae dadeni’r amgylchedd naturiol drwy’r ardal yn darparu cyfleoedd di-ri, fel y mae papur diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, yn archwilio cyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol y Rhondda, yn ei gydnabod.
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr, un o drysorau Cwm Cynon, yn gartref i grŵp natur Ladybird i rieni a phlant bach, cynllun sydd wedi pwyso ar y model Sgandinafaidd a hefyd wedi dysgu o ganlyniadau cadarnhaol grwpiau tebyg yn yr Alban. Mae’r fenter hon wedi arwain ymhellach at gyflogaeth a chyfleoedd economaidd lleol yn fy etholaeth. Mae’r fenter wedi bod mor llwyddiannus fel bod y tîm sy’n gyfrifol amdani bellach ar y ffordd i agor ysgol feithrin gyntaf Cymru yn seiliedig ar natur i blant rhwng dwy a phump oed ym Mharc Gwledig Cwm Dâr y gwanwyn nesaf. Bydd 90 y cant o’r dosbarthiadau yn rhai awyr agored, ac mae’r trefnwyr yn credu y bydd y plant sy’n mynychu yn iachach, yn well o ran eu lles, yn datblygu sgiliau gwell ac yn meddu ar ddealltwriaeth graffach o fyd natur. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud ym Mharc Gwledig Cwm Dâr wedi cael sylw rhyngwladol—cymaint felly fel bod y lle bellach wedi ei ddewis fel lleoliad ar gyfer symposia Skogsmulle rhyngwladol 2017, gan ddod ag addysgwyr awyr agored o bob cwr o’r byd at ei gilydd.
Rwy’n hynod falch fod darparwr addysg yn fy etholaeth fy hun yn arwain y ffordd o ran darparu addysg awyr agored yng Nghymru. Nid oes amheuaeth am yr amrywiaeth eang o fanteision y mae addysg awyr agored yn eu creu. Mae’n gwella’r gallu i ganolbwyntio, yn cynorthwyo gyda dysgu gwybyddol, yn gwella sgiliau cymdeithasol, yn galluogi plant i gysylltu â’r amgylchedd naturiol hardd sydd gennym i’w gynnig ac yn bwysicaf oll, mae’n helpu i ryddhau potensial ein plant. Diolch.