Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau, ac am ei groeso, yn amlwg, i’r broses hon. Rwy’n credu, yn gyntaf oll, o ran y rhanddeiliaid, ei fod wedi rhoi ei fys ar broblem barhaus, wrth gwrs, sef bod yr ymgynghoriad sydd gennym ar y gyllideb yn digwydd cyn i ni weld y gyllideb ei hun neu gyllideb ddrafft, ac yn wir, cyn i ni weld y rhaglen lywodraethu, na chafodd ei lansio tan ddoe. Yn ddelfrydol, byddech am sicrhau bod rhaglen lywodraethu’n cyd-fynd â dyraniad adnoddau, cyn creu rhyw fath o gyfres o argymhellion ynglŷn â’u priodoldeb, eu heffeithiolrwydd neu eu heffeithlonrwydd. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu’n galetach fel pwyllgor i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ôl i ni weld y gyllideb ddrafft, o 18 Hydref ymlaen.
Soniais am yr ap Dialogue rydym yn mynd i’w ddefnyddio. Mae’n beth cymharol newydd o safbwynt y Cynulliad, ond mae wedi cael ei ddefnyddio dros yr haf, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, i ymgysylltu ag unigolion gwahanol ac i ymgynghori. Mae’r ap yn caniatáu i bobl nid yn unig i ymateb, ond hefyd i ymateb i sut y mae pobl eraill wedi ymateb. Felly mae’n caniatáu trafodaeth iteraidd ar flaenoriaethau a syniadau. Felly rwy’n credu, ac rwy’n gobeithio, y bydd hynny’n cyfoethogi’r Pwyllgor Cyllid, yn ogystal â’r pwyllgorau eraill sy’n edrych ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud am eu cylch gwaith hefyd. Ac mae gennym hefyd, fel y dywedais, gyfarfod ffurfiol â rhanddeiliaid ym Merthyr Tudful, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn ei fynychu, yn ogystal ag ymgynghoriad ffurfiol. Felly, rydym yn ceisio taflu’r rhwyd mor eang â phosibl i sicrhau cefnogaeth pobl.
Ond mae hynny mewn gwirionedd yn dibynnu ar y ffordd rydym yn symud ymlaen. Roedd yna gyfres o argymhellion, fel y sonioch, gan y pwyllgor blaenorol. Rwy’n hyderus fod ysbryd yr argymhellion hynny yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae angen rhywfaint o drafod a rhywfaint o gytundeb rhwng ochr y Cynulliad ac ochr y Llywodraeth, o ran yr union amserlen, pa bryd y bydd yn digwydd, sut y bydd y toriadau’n cael eu cynnwys yn rhan o’r amserlen, sut rydym yn ymdrin â hyn yn y Rheolau Sefydlog, fel bod gan y Llywodraeth yr hyblygrwydd cywir sydd ei angen arni i gynhyrchu cyllideb, ond mae gennym amser. A nod hyn i gyd—fel y bydd yn cofio o’r argymhellion—yw cynyddu’r amser ar gyfer craffu ar gynigion gwirioneddol, cynigion y gyllideb, a hefyd er mwyn caniatáu i bwyllgorau eraill gael dull mwy cydlynol o graffu ar y gyllideb eu hunain, gyda’r Pwyllgor Cyllid, o bosibl, â ffordd gyfeiriol ychydig yn fwy strategol o helpu’r pwyllgorau eraill hynny, pwyllgorau pwnc unigol, i wneud eu gwaith ar y gyllideb yn ogystal.
Nid oes unrhyw un wedi gofyn yn ffurfiol i mi fod yn rhan o unrhyw broses mewn perthynas â phenodi unrhyw aelodau o Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n sicr y bydd y pwyllgor yn awyddus i barhau i graffu ar yr awdurdod hwnnw a’r broses honno, ac rwy’n sicr y byddwn ninnau, ymhen amser, yn dymuno gwahodd aelodau a chadeirydd yr awdurdod i mewn i’w craffu ac i sesiynau lle y gallwn eu holi a gweld y dull a weithredir gan yr awdurdod cyllid newydd. Ond megis dechrau y mae hynny, wrth gwrs.
Credaf ein bod wedi ymdrin â model gwaith craffu wrth drafod sut y byddwn yn bwrw ymlaen ag argymhellion y pwyllgor blaenorol.