Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i David Melding am ei gwestiynau, a chofiaf nad oeddwn yn ymwybodol ei fod yn gyndyn i roi ei farn yn y Cynulliad blaenorol ar unrhyw adeg, a chredaf ei fod wedi gwneud y gorau o’r cyfle, ond rwy’n falch iawn fod mwy o gyfleoedd eto yn awr i Gadeiryddion a phwyllgorau hysbysu’r Cynulliad.
Credaf ei fod yn nodi pwynt pwysig ynghylch olrhain newidiadau o flwyddyn i flwyddyn a gallu gweld pa mor effeithiol, fel y byddwn yn ei roi, yw rhaglenni’r Llywodraeth. Nid wyf yn credu mai pwyllgor cyfrifon yw’r Pwyllgor Cyllid, a chredaf ein bod yn well, o bosibl, pan nad ydym yn edrych arno fel ffordd o gadw cyfrifon, ond edrych yn hytrach ar y symiau cyffredinol—neu’n hytrach, y symiau gweddol flaenllaw—ac edrych ar effeithiolrwydd y gwariant, ac a oes digon o adnoddau ar gael i’r Llywodraeth gyflawni’r hyn y mae’n dweud ei bod yn bwriadu ei wneud. Ond rwy’n sicr yn cytuno, wrth i ni symud at y broses newydd hon, fod angen i ni ddeall, o dan ein Rheolau Sefydlog, sut y gallwn ddilyn y ceiniogau, neu o leiaf y degau neu gannoedd o filiynau, a sut y gellid gwneud hynny mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr, gan ein bod yn gweld, er enghraifft, pan fydd y cyfrifoldeb gweinidogol am raglen yn newid, y gall ddiflannu o linell benodol a bod yn anodd iawn ei weld.
Credaf fod David Melding wedi rhoi ei fys ar un neu ddwy o ffyrdd allweddol eraill y gallwn wneud hyn, sef ystyried ac olrhain materion trawsbynciol. Fe sonioch am iechyd meddwl a phlant sy’n derbyn gofal; cytunaf â hynny. O safbwynt Cadeirydd y pwyllgor, byddwn hefyd yn ychwanegu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 at hynny, deddf sydd bellach yn gyfrifoldeb i’r Gweinidog sy’n adrodd fwyaf i’r pwyllgor hwn, ond sydd, wrth gwrs, wedi ei chynllunio i effeithio ar wariant y Llywodraeth a’r ffordd y caiff adnoddau’r Llywodraeth eu defnyddio yn gyffredinol, ac nid yw’n perthyn yn hwylus i un pwyllgor. Felly, credaf fod rôl i rywbeth fel y Pwyllgor Cyllid gael trosolwg ar bethau fel Deddf cenedlaethau’r dyfodol ac amcanion tebyg gan y Llywodraeth sydd ‘â bwriadau da, ond gadewch i ni weld sut y maent yn cyflawni’. Mewn gwirionedd, mae’n ymwneud wedyn â pha un a yw’r Llywodraeth yn rhoi adnoddau tuag at yr hyn y mae’n dweud y dymuna ei gyflawni, o dan, dyweder, ei chwech neu saith amcan neu beth bynnag y bydd o dan Fil, neu Ddeddf fel y’i gelwir wedyn. Mae honno’n un ffordd glir y gall y Pwyllgor Cyllid helpu a chynorthwyo pwyllgorau eraill heb dresmasu ar gyfrifoldebau pwyllgorau eraill.