Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch, Lywydd. Rwy’n symud y cynnig yn enw Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw y ddadl yma y prynhawn yma er mwyn nodi ei bod hi bellach yn dair blynedd ers i adroddiad yr Athro Sioned Davies, a oedd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ar sefyllfa’r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg gael ei gyhoeddi. Casgliad yr adroddiad, wrth gwrs, oedd ei bod hi’n unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. Roedd yr adroddiad yn dweud bod lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall, a phe bai hyn wedi cael ei ddweud am fathemateg neu am y Saesneg, diau y byddem ni wedi cael chwyldro, meddai’r adroddiad. Os ydym ni o ddifri felly ynglŷn a datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad a hynny fel mater o frys cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Nawr, dim ond rai misoedd ynghynt, mi roedd y cyfrifiad wedi paentio darlun i ni o safbwynt cwymp y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Fis ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, mi argymhellodd canlyniadau’r Gynhadledd Fawr gan y Llywodraeth—os ydych chi’n cofio honno—fod angen newidiadau sylweddol iawn ar addysg Gymraeg ail iaith. Ym mis Awst 2014, mi ddywedodd y Prif Weinidog ei hun yn ei ddogfen bolisi ‘Iaith fyw: iaith byw—Bwrw mlaen’, fod angen, ac rwy’n dyfynnu, i
‘holl ddysgwyr Cymru—p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgolcyfrwng Saesneg...siarad y Gymraeg yn hyderus.’
Ac ym mis Tachwedd 2014, blwyddyn gyfan ar ôl cyhoeddi adroddiad yr Athro Davies, mi wnaeth yr Athro Davies fynegi gofid nad oedd yna ddim byd llawer wedi digwydd, meddai hi, ers iddo gael ei gyhoeddi. O’r holl bethau yr oedd hi wedi’u hawgrymu, meddai’r Athro Davies, roedd yna bethau y gallent fod wedi cael eu gwneud dros nos, ond roedd yna bethau eraill, fel adeiladu capasiti, a fyddai’n cymryd llawer iawn o flynyddoedd, meddai hi.
‘Fe ddwedes i yn yr adroddiad ei bod hi’n unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. Dwi ddim yn gwybod be sy’n dod ar ôl unfed awr ar ddeg. Ond fyswn i’n dweud bod y cloc bron wedi taro eto dwi’n credu.’
Mi oedd hynny flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad. Wrth gwrs, rŷm ni bellach dair blynedd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad ac, i bob pwrpas, yn dal i ddisgwyl.
Yn lle symud i ffwrdd o’r gyfundrefn Gymraeg ail iaith, wrth gwrs, beth welsom ni yn gynharach eleni oedd Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar y cymhwyster TGAU Cymraeg ail iaith ac yn dod i’r casgliad eu bod nhw am gadw’r cymhwyster am y tro, beth bynnag, er bod mwyafrif ymatebwyr yr ymgynghoriad wedi dweud, wrth gwrs, fod angen dileu TGAU Cymraeg ail iaith—er mai polisi Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yw dileu TGAU Cymraeg ail iait—ac er bod academyddion, addysgwyr, cyrff a mudiadau o bob lliw a llun am ddileu Cymraeg ail iaith.
Nawr, er tegwch, wrth gwrs, mae Cymwysterau Cymru yn dweud mai cam dros dro yw hyn, ond, wrth gwrs, nid oes yna eglurder o gyfeiriad Llywodraeth Cymru beth yn union yw ystyr ‘dros dro’. Ac felly, rydw i yn deall ac yn cydymdeimlo, mae’n rhaid i fi ddweud, â’r gofid a rhwystredigaeth y mae nifer wedi mynegi bod cymaint o amser wedi pasio ers cyhoeddi adroddiad yr Athro Sioned Davies heb weithredu pendant a heb weithredu penderfynol ar yr agenda yma, ac yna, wrth gwrs, yn gweld Cymwysterau Cymru yn ymddangosiadol beth bynnag, yn cario ymlaen i ddiwygio’r hen gyfundrefn. Rydw i’n deall, felly, yr amheuaeth a yw’r ymrwymiad yna mewn gwirionedd gan Lywodraeth Cymru i newid y drefn yn y maes yma.
Wrth gwrs, mae’n rhaid atgoffa ein hunain bod y Prif Weinidog wedi dweud mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ei fod e a’r Gweinidog addysg blaenorol wedi dod i’r un casgliad, a’u bod nhw o’r farn bod cysyniad Cymraeg fel ail iaith,
‘yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol.’
Er gwaethaf hynny i gyd, mae’n rhaid imi ddweud fy mod i yn falch i weld, yng ngwelliant Llywodraeth Cymru, ddatganiad sy’n dweud,
‘o 2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu’r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith’
Rwy’n croesawu hynny, ond mi fuaswn i’n hoffi i’r Gweinidog gadarnhau nid a fydd y cwricwlwm newydd ar gael a’r cymhwyster newydd ar gael i bawb erbyn 2021, ond y bydd e’n cael ei ddefnyddio gan bawb, a’r cymhwyster newydd yn cael ei arholi yn 2021, a, hynny yw, bod yr hen gyfundrefn wedi mynd. Dyna’r sicrwydd, rwy’n meddwl, y mae nifer yn chwilio amdano fe, a Chymwysterau Cymru yn eu plith nhw, rwy’n siŵr.
Nid yw ail gymal gwelliant y Llywodraeth ddim cweit cystal, ac efallai ei fod e’n rhy annelwig a chyffredinol yn fy marn i. Mae e’n dileu, yn anffodus, cymalau 4(b) a 4(c) yn y cynnig gwreiddiol, sy’n sôn am weithredu, ac yn rhoi gwelliant sydd yn sôn am ‘nodi’ rhywbeth yn ei le. Nawr, mae’r Llywodraeth, efallai’n licio ‘nodi’ llawer o bethau; yr hyn rŷm ni eisiau ei weld, wrth gwrs, yw gweithredu.
Rŷm ni wedi crybwyll, wrth gwrs, yn ein cynnig gwreiddiol ni, yr angen i fabwysiadu mesurau, er enghraifft i gynyddu nifer yr ymarferwyr addysg sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond nid yn unig hynny, wrth gwrs, ond y gefnogaeth dysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swyddi’n barod, cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill, a’r angen, wrth gwrs, am adnoddau ychwanegol i gyflawni hynny.
Mae’r her o gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn un sylweddol, ac mae angen gweithredu, wrth gwrs, yn effeithiol ac yn brydlon. Yn ôl adroddiad blynyddol y Llywodraeth ei hunain ar ei strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg, nid yw’r cynnydd yn y niferoedd sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn ddigonol. Nid wyf yn meddwl y gall neb wadu hynny. Rŷm ni wedi gweld, ers 2001, cynnydd o 0.1 y cant. Nawr, nid dyna’r uchelgais; nid dyna’r tirlun addysgiadol, trawsnewidiol sydd ei angen i gyrraedd y nod uchelgeisiol hwnnw o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae rhywun wedi dweud wrthyf i y bydd hi’n cymryd 800 mlynedd i sicrhau bod pob un person ifanc yng Nghymru yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar y raddfa yna o gynnydd. Rwy’n gwybod bod olwynion llywodraeth yn dueddol o droi’n araf deg, ond nid yw hyd yn oed olwynion Llywodraeth Cymru, does bosib, yn troi mor araf â hynny.