– Senedd Cymru ar 21 Medi 2016.
Rydym ni’n symud nesaf at ddadl Plaid Cymru ar yr agenda ac rwy’n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6095 Simon Thomas
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ei bod yn dair blynedd ers cyhoeddi adroddiad Yr Athro Sioned Davies a argymhellodd ddileu ‘Cymraeg ail iaith’ a sefydlu un continwwm dysgu’r Gymraeg yn ei le.
2. Yn nodi bod llythyr y Prif Weinidog o fis Rhagfyr 2015 yn datgan ei fod ‘o’r farn bod y cysyniad ‘Cymraeg fel ail iaith’ yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol’.
3. Yn nodi pwysigrwydd y gyfundrefn addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
4. Yn gresynu at benderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw’r cymhwyster Cymraeg ail iaith am gyfnod dros dro amhenodol, ac felly, er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o sgiliau i ddefnyddio’r Gymraeg, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) amlinellu amserlen glir ar gyfer disodli’r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl erbyn 2018 a fyddai’n golygu arholi’r cymhwyster newydd yn gyntaf yn 2020;
(b) mabwysiadu strategaeth i dargedu adnoddau ychwanegol ar ddysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swydd, cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill; ac
(c) buddsoddi’n sylweddol, a chynllunio o ddifrif, drwy becyn o fentrau arloesol, er mwyn cynyddu’n gyflym nifer yr ymarferwyr addysg sy’n dysgu drwy’r Gymraeg.
Diolch, Lywydd. Rwy’n symud y cynnig yn enw Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw y ddadl yma y prynhawn yma er mwyn nodi ei bod hi bellach yn dair blynedd ers i adroddiad yr Athro Sioned Davies, a oedd wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ar sefyllfa’r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg gael ei gyhoeddi. Casgliad yr adroddiad, wrth gwrs, oedd ei bod hi’n unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. Roedd yr adroddiad yn dweud bod lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall, a phe bai hyn wedi cael ei ddweud am fathemateg neu am y Saesneg, diau y byddem ni wedi cael chwyldro, meddai’r adroddiad. Os ydym ni o ddifri felly ynglŷn a datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad a hynny fel mater o frys cyn ei bod hi’n rhy hwyr.
Nawr, dim ond rai misoedd ynghynt, mi roedd y cyfrifiad wedi paentio darlun i ni o safbwynt cwymp y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Fis ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, mi argymhellodd canlyniadau’r Gynhadledd Fawr gan y Llywodraeth—os ydych chi’n cofio honno—fod angen newidiadau sylweddol iawn ar addysg Gymraeg ail iaith. Ym mis Awst 2014, mi ddywedodd y Prif Weinidog ei hun yn ei ddogfen bolisi ‘Iaith fyw: iaith byw—Bwrw mlaen’, fod angen, ac rwy’n dyfynnu, i
‘holl ddysgwyr Cymru—p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgolcyfrwng Saesneg...siarad y Gymraeg yn hyderus.’
Ac ym mis Tachwedd 2014, blwyddyn gyfan ar ôl cyhoeddi adroddiad yr Athro Davies, mi wnaeth yr Athro Davies fynegi gofid nad oedd yna ddim byd llawer wedi digwydd, meddai hi, ers iddo gael ei gyhoeddi. O’r holl bethau yr oedd hi wedi’u hawgrymu, meddai’r Athro Davies, roedd yna bethau y gallent fod wedi cael eu gwneud dros nos, ond roedd yna bethau eraill, fel adeiladu capasiti, a fyddai’n cymryd llawer iawn o flynyddoedd, meddai hi.
‘Fe ddwedes i yn yr adroddiad ei bod hi’n unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. Dwi ddim yn gwybod be sy’n dod ar ôl unfed awr ar ddeg. Ond fyswn i’n dweud bod y cloc bron wedi taro eto dwi’n credu.’
Mi oedd hynny flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad. Wrth gwrs, rŷm ni bellach dair blynedd ar ôl cyhoeddi’r adroddiad ac, i bob pwrpas, yn dal i ddisgwyl.
Yn lle symud i ffwrdd o’r gyfundrefn Gymraeg ail iaith, wrth gwrs, beth welsom ni yn gynharach eleni oedd Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar y cymhwyster TGAU Cymraeg ail iaith ac yn dod i’r casgliad eu bod nhw am gadw’r cymhwyster am y tro, beth bynnag, er bod mwyafrif ymatebwyr yr ymgynghoriad wedi dweud, wrth gwrs, fod angen dileu TGAU Cymraeg ail iaith—er mai polisi Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yw dileu TGAU Cymraeg ail iait—ac er bod academyddion, addysgwyr, cyrff a mudiadau o bob lliw a llun am ddileu Cymraeg ail iaith.
Nawr, er tegwch, wrth gwrs, mae Cymwysterau Cymru yn dweud mai cam dros dro yw hyn, ond, wrth gwrs, nid oes yna eglurder o gyfeiriad Llywodraeth Cymru beth yn union yw ystyr ‘dros dro’. Ac felly, rydw i yn deall ac yn cydymdeimlo, mae’n rhaid i fi ddweud, â’r gofid a rhwystredigaeth y mae nifer wedi mynegi bod cymaint o amser wedi pasio ers cyhoeddi adroddiad yr Athro Sioned Davies heb weithredu pendant a heb weithredu penderfynol ar yr agenda yma, ac yna, wrth gwrs, yn gweld Cymwysterau Cymru yn ymddangosiadol beth bynnag, yn cario ymlaen i ddiwygio’r hen gyfundrefn. Rydw i’n deall, felly, yr amheuaeth a yw’r ymrwymiad yna mewn gwirionedd gan Lywodraeth Cymru i newid y drefn yn y maes yma.
Wrth gwrs, mae’n rhaid atgoffa ein hunain bod y Prif Weinidog wedi dweud mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ei fod e a’r Gweinidog addysg blaenorol wedi dod i’r un casgliad, a’u bod nhw o’r farn bod cysyniad Cymraeg fel ail iaith,
‘yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol.’
Er gwaethaf hynny i gyd, mae’n rhaid imi ddweud fy mod i yn falch i weld, yng ngwelliant Llywodraeth Cymru, ddatganiad sy’n dweud,
‘o 2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu’r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith’
Rwy’n croesawu hynny, ond mi fuaswn i’n hoffi i’r Gweinidog gadarnhau nid a fydd y cwricwlwm newydd ar gael a’r cymhwyster newydd ar gael i bawb erbyn 2021, ond y bydd e’n cael ei ddefnyddio gan bawb, a’r cymhwyster newydd yn cael ei arholi yn 2021, a, hynny yw, bod yr hen gyfundrefn wedi mynd. Dyna’r sicrwydd, rwy’n meddwl, y mae nifer yn chwilio amdano fe, a Chymwysterau Cymru yn eu plith nhw, rwy’n siŵr.
Nid yw ail gymal gwelliant y Llywodraeth ddim cweit cystal, ac efallai ei fod e’n rhy annelwig a chyffredinol yn fy marn i. Mae e’n dileu, yn anffodus, cymalau 4(b) a 4(c) yn y cynnig gwreiddiol, sy’n sôn am weithredu, ac yn rhoi gwelliant sydd yn sôn am ‘nodi’ rhywbeth yn ei le. Nawr, mae’r Llywodraeth, efallai’n licio ‘nodi’ llawer o bethau; yr hyn rŷm ni eisiau ei weld, wrth gwrs, yw gweithredu.
Rŷm ni wedi crybwyll, wrth gwrs, yn ein cynnig gwreiddiol ni, yr angen i fabwysiadu mesurau, er enghraifft i gynyddu nifer yr ymarferwyr addysg sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond nid yn unig hynny, wrth gwrs, ond y gefnogaeth dysgu Cymraeg i athrawon dan hyfforddiant, athrawon mewn swyddi’n barod, cymorthyddion dosbarth ac ymarferwyr dysgu eraill, a’r angen, wrth gwrs, am adnoddau ychwanegol i gyflawni hynny.
Mae’r her o gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn un sylweddol, ac mae angen gweithredu, wrth gwrs, yn effeithiol ac yn brydlon. Yn ôl adroddiad blynyddol y Llywodraeth ei hunain ar ei strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg, nid yw’r cynnydd yn y niferoedd sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn ddigonol. Nid wyf yn meddwl y gall neb wadu hynny. Rŷm ni wedi gweld, ers 2001, cynnydd o 0.1 y cant. Nawr, nid dyna’r uchelgais; nid dyna’r tirlun addysgiadol, trawsnewidiol sydd ei angen i gyrraedd y nod uchelgeisiol hwnnw o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae rhywun wedi dweud wrthyf i y bydd hi’n cymryd 800 mlynedd i sicrhau bod pob un person ifanc yng Nghymru yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar y raddfa yna o gynnydd. Rwy’n gwybod bod olwynion llywodraeth yn dueddol o droi’n araf deg, ond nid yw hyd yn oed olwynion Llywodraeth Cymru, does bosib, yn troi mor araf â hynny.
Rydw i, ac mae Plaid Cymru, o’r farn bod hyn yn annerbyniol. Mae addysgwyr o’r sector addysg o’r farn bod hyn yn annerbyniol ac, yn wir, mae polisi Llywodraeth Cymru ei hunain yn datgan, i bob pwrpas, fod hynny yn annerbyniol. Gadewch i ni, felly, fynd ati yn bendant ac yn benderfynol i greu’r un continwwm dysgu Cymraeg yma. Nid yw’n ddigon ar ei ben ei hun, ond mae e’n rhan allweddol o strategaeth ehangach cyffredinol, ac os gwnawn ni hynny, efallai—efallai—y byddwn ni’n llwyddo i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod addysg yng Nghymru yn cael ei diwygio, bod Cymwysterau Cymru yn cryfhau TGAU Cymraeg Ail Iaith fel mesur dros dro, ac o 2021 y bydd y cwricwlwm newydd yn dileu’r gwahaniaeth rhwng Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith; a
b) y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ac amserlenni ar gyfer newidiadau yn y cwricwlwm a’r broses asesu ar gyfer Cymraeg mewn ysgolion.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau’r Ceidwadwyr Cymreig.
A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am ddod â mater y Gymraeg fel ail iaith yn ôl i’r Siambr mor gyflym y tymor hwn? Mae gwelliant y Llywodraeth yn dangos bod yna gyfyngiadau, a gawn ni ddweud, ar eich perthynas glyd, wedi’r cyfan. Ond, gan ddod â fe nôl mor glou, mae’n dangos y gall rhai pethau gael eu gwneud yn gyflym, ac rydym yn cefnogi’n llwyr y pwynt bod Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu amser ers adroddiad Sioned Davies. Am y rheswm hwnnw, byddai’n well gennym ni gefnogi’r cynnig heb welliant y Llywodraeth, os yn bosib, oherwydd ein bod yma i ddal y Llywodraeth i gyfrif ac atgoffa pobl Cymru bod pobl ifanc yn dal i gyrraedd a gadael ein system addysg heb fantais y gall y system ei rhoi iddynt, sef sgiliau iaith Gymraeg gwell.
Hefyd, byddai dileu pwynt 4 y cynnig yn gwrthod wynebu her ganolog, sef sgiliau’r gweithlu. Mae’n amhosib dweud unrhyw beth ystyrlon am ansawdd cymwysterau, neu symud ymlaen o’r gwahaniaeth rhwng iaith gyntaf ac ail iaith, oni bai eich bod yn wynebu’r ffaith bod rhaid i athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol eraill gyflawni hyn, ac nid yw’r capasiti yno eto i wneud hynny.
Hoffwn ganolbwyntio ar y materion yma: ansawdd a gallu, a pham rydym ni wedi cyflwyno ein gwelliannau fel y maent mewn dadl am gymwysterau. Mae cyflwyno arholiadau yn 2020 neu’r flwyddyn wedyn yn golygu y byddai unrhyw un sy’n dechrau blwyddyn 7 eleni neu flwyddyn nesaf yn mynd i sefyll yr arholiadau hynny. Bydden nhw wedi cael y profiad o’r system gynradd cyfrwng Saesneg fel y mae nawr. Er gwaethaf y ffaith bod y Gymraeg wedi bod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ar gyfer pob oedran ers 1999, mae’n deg dweud y bydd llawer o blant yn cyrraedd drws eu hysgol uwchradd gyda chyn lleied o gyfarparu o ran sgiliau, dealltwriaeth a hyder i ddechrau gwersi Cymraeg ag y byddent â gwersi Ffrangeg. I rai, bydden nhw’n ei hystyried fel gwers arall am ieithoedd modern yn hytrach na siawns i ddatblygu rhan greiddiol o’u hunaniaeth a’u sgiliau bob dydd.
Felly, fy nghwestiwn ar ran y garfan hon o bobl ifanc yw: sut bydd y cwricwlwm newydd yn eu helpu nhw i gyflawni safon uwch yn y tri agwedd yna—uwch na’r rhai sydd wedi mynd o’r blaen? Ni fydd eu profiad o ysgol gynradd yn wahanol i’r rhai a aeth o’u blaen, ac mae’r profiad hwnnw, dawn unigol pobl ifanc a’r newid yn nisgwyliadau athrawon, rwy’n meddwl, yn ei gwneud yn afrealistig i ddisgwyl i’r garfan hon o blant sefyll yr un math o arholiad â’u cyfoedion sydd wedi dod i fyny drwy addysg cyfrwng Cymraeg.
Nid yw hynny, wrth gwrs, yn golygu na all cynnwys y cwrs ysgol uwchradd fod yn fwy heriol ac yn reddfol. Ond nid oes unrhyw bwynt cael cwrs mwy heriol ac uno i mewn i gontinwwm oni bai bod plant yn cyrraedd yr ysgolion uwchradd ar ôl llawer mwy o gyswllt â’r Gymraeg fel rhan annatod o’u profiad ysgol gynradd. Nid wyf am i ddisgyblion fethu arholiadau Cymraeg yn 2020 a 2021 oherwydd bod eu bywyd cynnar yn yr ysgol wedi methu â’u paratoi. Dyna pam na ddylai pwyntiau 4(b) ac 4(c) gael eu dileu o’r cynnig hwn—maen nhw’n berthnasol i’r sector cynradd hefyd.
Fy unig broblem gyda’r cynnig hwn yw yr amserlen. Os byddai newid sylfaenol i le’r Gymraeg yn ein hysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn cael ei gyflawni heddiw, ni fyddai’r plant hynny yn cymryd TGAU tan 2027. Nhw yw’r plant sydd gyda’r siawns o wneud yr un arholiad â’u cyfoedion o ysgolion Cymraeg.
Felly, beth sy’n mynd i ddigwydd i’r arholiad yn y cyfamser i amddiffyn ei enw da a’r safon a nifer y bobl sy’n ei basio? A ydym yn ystyried rhywbeth tebyg i TGAU gwyddoniaeth, gyda chwricwlwm ac arholiadau gwahaniaethol efallai? Nid wyf yn gwybod beth yw’r cynlluniau ar hyn. Ond, wrth gwrs, nid yw hwn yn nod hirdymor. Diben ein gwelliannau heddiw yw atgyfnerthu’r neges hon: i normaleiddio’r Gymraeg i bawb, i greu system addysg sy’n gallu gwneud hyn, ac arholiadau sy’n adlewyrchu hyn, mae’n rhaid i ni ddechrau cyn i blant fynd i’r ysgol. Rhaid cynnwys y gweithlu hwnnw dan bwyntiau 4(b) a 4(c).
Dim ond pwynt atgoffa oedd gwelliant 4. Rwy’n dod i ben yn y fan hon. Mae’r Gymraeg yn sgil yn y gweithle, yn sgil cyfathrebu ac yn rhan o’n ffordd o fyw. Nid yw’n dod i ben pan fo drws yr ysgol yn cau. Diolch yn fawr.
Diolch i chi am ganiatáu i mi gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Mae’r iaith Gymraeg yn fater pwysig. Tybed a fyddai wedi bod yn well treulio ychydig mwy o amser ar y mater hwn na’r hanner awr a ddyrannwyd. Rydym yn trafod gadael yr UE eto—mae fel ‘groundhog day’.
Cytunaf â’r egwyddorion sy’n sail i’r cynnig hwn, ond teimlaf efallai na fydd yn llwyddo i gyflawni ei fwriad yn llawn. Felly, byddaf yn cefnogi’r gwelliannau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, er fy mod yn cefnogi tri phwynt cyntaf cynnig Plaid Cymru. Rwyf wedi darllen y llythyr a dderbyniodd yr holl Aelodau gan Cymwysterau Cymru yn ofalus, ac rwyf hefyd wedi dilyn y dadleuon a gyflwynwyd heddiw gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Yn eu llythyr, dywed Cymwysterau Cymru:
‘wrth gyflwyno newidiadau sylweddol i gymwysterau rhaid sicrhau amser digonol i athrawon a dysgwyr i baratoi; gall newid cymwysterau yn frysiog greu anawsterau i athrawon ac i ddysgwyr a pheryglu llwyddiant unrhyw gymhwyster newydd.’
Nid wyf yn credu eu bod yn awgrymu 800 mlynedd, fodd bynnag, ond credaf ei fod yn adlewyrchu—os wyf wedi deall yn iawn—rhai o’r gwirioneddau a nodwyd gan Suzy Davies.
Yn fy ngalwedigaeth flaenorol, roeddwn yn cynllunio, dilysu, monitro a darparu cymwysterau. Yn fy marn i, ar sail y profiad hwnnw, yw mai’r allwedd i lwyddiant yw gosod y dysgwr yn ganolog i’r rhaglen rydych yn ei chreu; beth yw anghenion y dysgwyr, beth yw eu cymhellion, beth yw eu gobeithion ar gyfer y dyfodol? Teimlaf mai dyhead dros ein hiaith, ac nid o reidrwydd dros ein dysgwyr, sydd wrth wraidd pwynt (a) yn y cynnig. Mae’n ddyhead da sydd hefyd yn codi cwestiwn gwleidyddol: pam nad ydym wedi teithio’n bellach na lle’r ydym heddiw? Mae’n gwestiwn rhesymol i’w ofyn, a dylid ei ofyn i’r Gweinidog, ac yn wir, dylai’r Gweinidog ei ateb, ond nid yw’n gwestiwn sydd o gymorth i’r dysgwyr rydym eisiau eu cefnogi, yn fy marn i. Yn ymarferol, gallai pwynt 4(a) wneud y gwrthwyneb i’r hyn y mae’n ceisio ei gyflawni, sef pontio’r bwlch rhwng dyhead a chyflawniad ymarferol.
Dysgais y Gymraeg fel ail iaith hyd at lefel TGAU, yn ôl pan oedd ysgolion cyfrwng Saesneg, yn y bôn, yn rhoi dewis o dderbyn hynny neu beidio. Llwyddais gael gradd A, ond nid euthum ymlaen i astudio ar gyfer Safon Uwch yn y Gymraeg gan nad oedd yr hyder gennyf i astudio ymhellach. Rwy’n dal i deimlo nad yw’r hyder hwnnw gennyf o ran y Gymraeg. Mae’r ffaith fy mod yn rhoi’r araith hon heddiw yn Saesneg yn dangos methiant mwy hirdymor y mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i fynd i’r afael ag ef, a gofynnwn y cwestiwn heddiw: beth yn rhagor y gallwn ei wneud? Ond mae yna fater diwylliannol dwfn rwyf wedi’i weld yn aml yn fy nghymuned sy’n galw am ystyried yn drwyadl unrhyw ymyrraeth gan y Llywodraeth. I roi enghraifft i chi, pan glywaf Aelodau yn siarad yn y Siambr hon ac mae’n rhaid i mi godi’r clustffonau, rwy’n teimlo’n rhwystredig nad yw fy nealltwriaeth o’r iaith yn ddigon da ac mae’n deimlad na fydd siaradwyr Cymraeg rhugl o bosibl yn ei werthfawrogi bob amser yn y cyd-destun hwnnw. Ac eto, mae’n rhwystr cyffredin i ddysgu rydym oll wedi’i wynebu. Pan fo rhywbeth yn anodd, sut rydym yn cymell ein hunain, sut rydym yn osgoi rhoi’r gorau iddi a gwrthod rywbeth—yn yr achos hwn, yr iaith Gymraeg—sy’n rhy anodd i’w gyflawni?
Mae strategaeth addysgu a dysgu dda yn mynd i’r afael â’r her hon, ond mae hefyd yn cymryd amser i ddatblygu, weithiau drwy brofi a methu. Mae’r cynnig yn cydnabod hyn mewn rhannau, a gallech ddweud bod adrannau (b) ac (c) efallai yn cydnabod hyn o bosibl, ond wrth nodi 2018 yn derfyn amser ar gyfer llunio a datblygu’r cymhwyster, mae’n cyfyngu ar yr amser sydd gennym i ystyried dulliau asesu priodol. Nid wyf yn credu y bydd adnoddau ychwanegol, megis gwario arian ar hyfforddiant athrawon, yn ddigon ar eu pen eu hunain. Mae amser a datblygiad diwylliannol yn faterion allweddol hefyd.
Fel y dywedais, rwy’n cefnogi egwyddor y cynnig, ond yn realistig, teimlaf na allwn gyflawni’r nod ym mhwynt 4(a) cyn cyflawni’r diwygiadau angenrheidiol i’r cwricwlwm. Am y rhesymau hyn, byddaf yn cefnogi’r cynnig fel y’i diwygiwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd ei hun yn ymrwymo i gyhoeddi amserlen realistig ar gyfer newid.
Diolch yn fawr iawn. Rwy’n mynd i gyfeirio at rif 3 yn y cynnig, sef pwysigrwydd y gyfundrefn addysg yn ei chyfanrwydd, felly, er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac rwy’n mynd i drafod addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach na’r cymhwyster ail iaith fel y cyfryw. Rwyf yn nodi bod Llywodraeth Cymru, yn yr ymgynghoriad sy’n mynd ymlaen ar hyn o bryd ynglŷn â chynyddu i filiwn y siaradwyr Cymraeg, yn nodi fel hyn, o dan y pwynt ynglŷn ag addysg:
‘Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cael addysg Gymraeg ac sydd â sgiliau Cymraeg, am mai ond drwy alluogi rhagor o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd cyrraedd miliwn o siaradwyr.’
Felly, yn amlwg, mae addysg yn allweddol i chi fel Llywodraeth hefyd yn y maes yma.
Heddiw, mae mwyafrif llethol y sawl sy’n siarad Cymraeg yn ei dysgu yn yr ysgol, tra bod mwyafrif llethol y sawl a anwyd yng nghanol y ganrif ddiwethaf a chyn hynny wedi bod yn dysgu’r Gymraeg gartref—gwybodaeth ydy hyn sy’n dod o adroddiad Comisiynydd y Gymraeg. Ac un o’r prif resymau am y newid yma ydy nad ydy trosglwyddiad iaith yn y cartref mor effeithiol heddiw ag yr oedd yn y gorffennol. Nid bod rhieni Cymraeg eu hiaith yn llai tebygol o drosglwyddo’r Gymraeg; nid dyna ydy’r broblem, ond bod yna llai o deuluoedd lle mae’r ddau riant yn siarad yr iaith. Felly, os ydym ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, mae’n hanfodol bod nifer y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu. Yn amlwg, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llawer mwy tebygol nag addysg cyfrwng Saesneg o gynhyrchu siaradwyr Cymraeg. Ond, yn anffodus, fel yr ydym ni wedi ei glywed yn barod, nid ydy’r ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu. Roedd canran yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn is yn 2014-15 nag yr oedd hi yn 2010-11. Ac nid ydy nifer y plant sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ymddangos i fod yn cynyddu ryw lawer chwaith. Felly, mae’n hollol amlwg bod rhaid inni fod llawer iawn mwy uchelgeisiol.
Mae’n rhaid inni gael gwared ar yr anghysondeb yma sydd ar draws Cymru lle mae gennych chi sefyllfa lle, yng Nghaerdydd, allan o 124 o ysgolion yn yr awdurdod, dim ond 19 sydd yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwy ffrwd. Ym Merthyr Tudful, allan o 28 o ysgolion yn yr awdurdod, dim ond tair sydd yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwy ffrwd. Mewn gwrthwynebiad llwyr, yng Ngwynedd a Cheredigion, mae bron pob ysgol yn un cyfrwng Cymraeg neu’n ddwyieithog—cyfanswm o 167 o ysgolion.
Mae’r cynlluniau strategol addysg Gymraeg felly yn allweddol, a dyna pam yr oeddwn i’n codi’r cwestiwn yn gynharach efo Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, achos nid oes yna ddim targedau yn y rheini ar hyn o bryd, ac felly nid oes modd eu dal nhw i gyfrif, ac felly, sut ydym ni’n mynd i symud ymlaen i wneud cynnydd sylweddol? Rydym ni’n gorfod cael targedau realistig ac amserlenni realistig. Nid fi sydd wedi dweud hynna, ond Alun Davies a ddywedodd hynna’r bore yma mewn pwyllgor, lle yr oeddwn i. Mae o’n cytuno, sydd yn wych.
Efallai y byddai’n ddefnyddiol mynd yn ôl at argymhellion a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y Cynulliad diwethaf—17 o argymhellion pwysig iawn sy’n cynnig ffordd ymlaen o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Er enghraifft, rhif 13:
‘Dylai’r Gweinidog ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddo o dan ddeddfwriaeth bresennol i ymyrryd pan fydd awdurdodau lleol yn methu â chyflawni eu Cynlluniau Strategol.’
Dim ond un argymhelliad ydy hwnnw; mae yna rai eraill da iawn yn y fan hyn.
Felly, yn sicr, mae angen codi’r gêm ym maes addysg cyfrwng Cymraeg, neu nid ydym ni byth yn mynd i gyrraedd at y targed clodwiw iawn o filiwn o siaradwyr. Mae yna lot fawr o waith i’w wneud yma, ac mae angen drilio reit i lawr er mwyn gwneud yn siŵr bod yna weithredu’n digwydd. Diolch.
Rwy’n cymeradwyo’r teimladau a nododd Hefin David yn ei araith, a theimlaf yn debyg iawn iddo, oherwydd bûm yn ddigon anlwcus, pan oeddwn yn yr ysgol, yn ôl yn y 1960au, i wynebu dewis annymunol yn 14 oed: parhau i astudio’r Gymraeg neu newid i Almaeneg. Ar y pryd, penderfynais newid i Almaeneg. Y canlyniad yw y gallwn wneud araith weddol dderbyniol yma yn Almaeneg, ond yn anffodus, ni allwn wneud yr un peth yn Gymraeg. Ond erbyn diwedd fy nghyfnod yn y lle hwn gobeithiaf y byddaf yn medru’r iaith yn weddol rugl.
Bydd UKIP yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, a gwelliannau’r Ceidwadwyr hefyd, a byddwn yn gwrthwynebu gwelliant y Llywodraeth, gan fod gwelliant y Llywodraeth yn cael gwared ar y teimlad o frys yn y cynnig, a dyna sydd ei angen arnom yn awr. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd yn ei araith, mae’r unfed awr ar ddeg ar yr iaith Gymraeg, ac er bod cyfrifiad 2011 wedi dangos rhai arwyddion calonogol yn y tablau haeniad oedran, y bobl iau sy’n gallu siarad yr iaith, ac arolygon dilynol yn 2013, mae’r rhain yn hunan-ddetholus, ac ni ellir ymddiried yn llwyr yn y ffigurau hynny.
Yn yr Eisteddfod eleni, dywedodd yr archdderwydd na fyddai gennym unrhyw beth heb yr iaith. Nid oeddwn yn cytuno ag ef yn llwyr os cymerwch hynny’n llythrennol, ond gwn beth oedd yn ei olygu, a chytunaf â’i deimladau, gan fod iaith yn un o’r arwyddion o dras cenedl. Mewn gwirionedd, dyna sy’n gwneud y genedl Gymreig yn wahanol, ac mae’n asgwrn cefn hanfodol i ymdeimlad cenedlaethol yng Nghymru. Rydym yn ffodus yn hynny o beth o gymharu ag Iwerddon. Crefydd yw hanfod eu cenedlaetholdeb hwy wedi bod, ond yng Nghymru credaf fod yr iaith yn un o’i brif nodweddion, a chymeradwyaf hynny. Cymeradwyaf yr uchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chymeradwyaf hefyd y cam i benodi’r Gweinidog i’w swydd. Fel unigolyn cadarn ac ymosodol, ef yw tarw dur y weinyddiaeth, ac os gall unrhyw un gyflawni’r amcan hwn, ef fydd hwnnw, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddo.
Y broblem fawr sy’n ein hwynebu yng nghyd-destun globaleiddio, wrth gwrs, yw goruchafiaeth y Saesneg yn fyd-eang a bygythiad hynny i’r holl ieithoedd llai neu leiafrifol. Dyna’r anhawster ymarferol y mae’n rhaid i ni ei wynebu yng Nghymru, ond yr hyn sy’n rhaid i ni geisio ei sicrhau yw bod y Gymraeg yn dod yn iaith y buarth, yn iaith hamdden ac iaith y cartref, gan mai felly y mae sicrhau ei chadwraeth a’i chynnydd.
Mae’n ddadl fer iawn. Cytunaf â Hefin David—roedd yn haeddu llawer mwy na 30 munud. Nid wyf yn dymuno mynd â gormod o amser, ond rwyf am gofnodi bod UKIP yn llwyr gefnogi’r teimladau sy’n sail i’r cynnig a drafodir heddiw, a gobeithiaf y byddwn yn cael cyfleoedd eraill i archwilio’r pethau y gofynna’r cynnig amdanynt ar achlysur arall.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwyf hefyd yn ychwanegu fy niolchiadau i Llyr a Phlaid Cymru am ffeindio’r amser i gynnal trafodaeth ar hyn y prynhawn yma. Mi fydd y Llywodraeth yn cefnogi’r gwelliannau i gyd y prynhawn yma, nid oherwydd yr ydym yn meddwl bod y rhain yn arafu’r ‘progress’ yr ydym yn ei weld, ond oherwydd ein bod ni eisiau pwysleisio ble mae yna gytundeb o gwmpas y Siambr y prynhawn yma. Rwy’n credu bod yna dipyn bach mwy o gytundeb nag efallai mae’r drafodaeth wedi ei adlewyrchu hyd yn hyn. Fe wnaf i drio y prynhawn yma, yn yr amser sydd gen i, bwysleisio ble mae’r cytundeb hynny.
Mae Sian Gwenllian a Suzy Davies wedi pwysleisio pwysigrwydd addysg yn y strategaeth newydd y byddwn ni yn ei lansio’r flwyddyn nesaf. Rwy’n cytuno â chi: mae addysg yn hanfodol o bwysig i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr. Mae Sian Gwenllian wedi gofyn a fuaswn i yn ymyrryd petai yna gynlluniau yn dod gerbron sydd ddim yn ddigonol. Yr ateb yw: mi fyddaf i yn ymyrryd. Rwyf wedi gwneud hynny yn gwbl glir yn y Siambr yma, ac mi fydd Kirsty Williams yn gwneud hynny yn glir gydag awdurdodau lleol wrth gyfarfod â nhw yfory. Rydym ni o ddifri pan rydym ni’n sôn am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac rydym ni o ddifri amboutu sut yr ydym yn mynd i wneud hynny. A phan rwy’n dweud ‘o ddifri’, rwyf yn gwrando ar eiriau Hefin David, a’n gwrando ar beth roedd e’n dweud amboutu’r diwylliant yr ydym yn gweithio ynddo fe. Mae’n bwysig iawn cydnabod nad yw Cymru fel buasem ni i gyd yn licio ei gweld, ond y Gymru fel y mae hi heddiw. Mae hynny’n meddwl symud o ble rydym ni, gyda’r math o gyflymder yr ydym eisiau symud ynddo, a’r cyflymder y gallwn ei gael, gan dderbyn lle’r ydym ni heddiw.
Nid oes anghytundeb yn y Siambr yma amboutu adroddiad Sioned Davies. Nid oes anghytundeb. Nid oes anghytundeb yn fan hyn bod rhaid inni symud o sefyllfa ble nad yw Cymraeg ail iaith yn llwyddo i greu siaradwyr Cymraeg. Ac mae’n rhaid symud i gontinwwm o ddysgu Cymraeg, o’r blynyddoedd cynnar at ddiwedd y cyfnod yn yr ysgol.
Mae’n rhaid inni symud o le’r ydym ni, i ble rydym eisiau bod. Y drafodaeth rydym angen ei chael, rwy’n meddwl, yw sut rydym ni’n gwneud hynny, nid, efallai, yr amserlen, achos rydym i gyd yn gwybod—ac i ateb cwestiwn Llyr yn ei araith agoriadol—y byddwn yn symud at gwricwlwm newydd yn 2021, ac y byddwn ni yn symud i edrych ar y math o gymwysterau sydd gyda ni ar y pryd i edrych ar ba fath o gymwysterau fydd eu hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol. So, mi fyddwn ni yn ystyried hynny yn 2021.
So, beth ydym ni’n gwneud rhwng heddiw a 2021? Rwy’n meddwl bod rhaid inni ddatblygu’r gweithlu i’n galluogi ni i sicrhau ein bod yn gallu ymestyn ac ehangu dysgu Cymraeg yn fwy dwfn nag yr ydym wedi gwneud yn y gorffennol. Mae’n rhaid inni sicrhau bod gennym yr adnoddau—yr adnoddau yn y gweithlu a’r adnoddau yn yr ysgolion i wneud hynny. Mae’n rhaid inni newid y cwricwlwm a newid y ffordd rydym wedi bod yn dysgu. Rydym yn newid y cwricwlwm, ac rwy’n credu bod y llythyr rydym i gyd wedi derbyn gan Qualifications Wales yn ein helpu ni gyda hynny, achos mae’n dangos ein bod ni yn newid, a’n newid y flwyddyn nesaf, sut mae’r Gymraeg yn mynd i gael ei dysgu.
Mae pob un ohonom ni—. Rwy’n gwerthfawrogi geiriau Hefin. Ces i’r un fath o ddewis ag yr oedd gan Neil Hamilton yn yr ysgol. Gadewais i’r ysgol heb air o Gymraeg—heb allu canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Ni fydd yr un plentyn, gobeithio, yn gwneud hynny ar ôl i’r newidiadau yma ddod i rym. Felly, rydym ni wedi symud ac rydym yn symud. Rydym yn mynd i sicrhau bod yna dargedau realistig. Fe allem ni ddechrau dadlau nawr am beth sy’n realistig a beth sydd ddim yn realistig. Rwy’n derbyn hynny ac rwy’n edrych ymlaen at y drafodaeth. Ond rwyf eisiau bod yn hollol glir: ni fydd Cymraeg ail iaith yn rhan o’r cwricwlwm newydd. Mi fydd continwwm o ddysgu Cymraeg yn y cwricwlwm newydd. Cyn y byddwn yn symud at hynny, rwy’n gobeithio na fydd plant Cymru yn cael eu methu yn ystod y cyfnod hwnnw, oherwydd rydym yn mynd i bwysleisio siarad a defnyddio’r Gymraeg, nid jest dysgu mewn llyfrau ond siarad Cymraeg, defnyddio’r Gymraeg, teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg, a rhoi cyfle i bobl loywi eu hiaith a sicrhau bod pobl a phlant yn gadael yr ysgol yn teimlo fel eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg. Rydym yn mynd i fod yn gwneud hynny y flwyddyn nesaf.
Ni fydd yr enw, efallai, yn plesio pob tro. Mi fyddwn yn gofyn i’r rhai sy’n becso am y peth yma i edrych ar y cynnwys ac edrych ar y cwricwlwm. Pan fyddwn yn gwneud hynny, rwy’n credu y bydd tipyn bach yn fwy o gytundeb nag efallai y byddai rhai yn meddwl.
So, rwy’n gobeithio’r prynhawn yma—. Rwyf yn falch ein bod wedi cael y cyfle i drafod ac ystyried y peth prynhawn yma. Ac rwy’n gobeithio y cawn y cyfle i wneud hynny yn fuan eto. Ond, plîs, peidied neb â gadael y drafodaeth yma yn meddwl nad oes ymrwymiad gan y Llywodraeth yma i newid y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu yn ysgolion Saesneg Cymru. Nid oes unrhyw ffordd ein bod ni’n mynd i adael i blant Cymru adael yr ysgol os nad ydyn nhw’n gallu siarad Cymraeg.
Diolch. Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb yn gryno i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu, ac am y gefnogaeth, mewn gwirionedd, i’r bwriad. Y gwahaniaeth yw, wrth gwrs, sut rydym yn mynd ati, fel mae’r Gweinidog wedi dweud, a pha mor gyflym mae gwahanol elfennau’n dod at ei gilydd. Wrth gwrs, mae hynny yn ei gwneud hi’n hyd yn oed yn fwy poenus i feddwl bod yna dair blynedd wedi mynd a’n bod yn dal yn aros i’r Llywodraeth ddweud beth yw’r cynllun, a beth yw’r amserlen. Meddyliwch faint o adeiladu capasiti a fyddai wedi gallu digwydd yn y tair blynedd yna er mwyn dod â ni ychydig yn nes at y nod. Ond rwy’n derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog, ac rwy’n sicr y bydd yr angerdd yn ei lais, gobeithio, yn cael ei adlewyrchu yn y modd y bydd y Llywodraeth yma’n gweithredu.
Rwy’n clywed yr hyn y mae Hefin David yn ei ddweud, ac rwy’n diolch iddo fe am ei gyfraniad. Rwy’n meddwl ei fod yn gywir i ddweud efallai nad oes digon o ffocws wedi bod ar y dysgwr, efallai—o safbwynt y cynnig, ond yn ehangach hefyd. Ond, wrth gwrs, beth rwy’n ei weld yw adroddiad Robert Hill yn 2013 yn dweud mai dim ond mewn rhyw un ysgol o bob 10 y mae disgyblion yn gwneud cynnydd ardderchog wrth gaffael sgiliau Cymraeg ail iaith. Ac mi oedd hynny cyn adroddiad yr Athro Sioned Davies. Wel, mae’r gyfundrefn yna’n gadael y dysgwr i lawr, a dyna sy’n fy ngwneud i yn ddiamynedd, os liciwch chi, i weld y newid yma’n digwydd.
Rwy’n cytuno 100 y cant â Sian Gwenllian bod gan y cynlluniau strategol addysg Gymraeg lawer i’w hateb drosto fe, ac rwy’n falch i glywed bod y Gweinidog yn barod i ymyrryd. Wrth gwrs, beth rŷm ni ei eisiau yw dod i bwynt lle nad oes angen ymyrryd oherwydd bod y gwaith caib a rhaw wedi digwydd wrth iddyn nhw gael eu creu. Felly, edrychwn ni ymlaen at hynny. Fe allem ni fod tair blynedd yn nes i’r lan, ond nid ydym. Rwy’n clywed beth y mae’r Gweinidog yn ei ddweud, ac rwy’n gobeithio bod y ddadl yma heddiw o leiaf wedi sicrhau ein bod ni wedi cael yr ymrwymiadau yna tipyn bach yn gryfach nag, efallai, yn y gorffennol. Felly, diolch i bawb am eu cyfraniadau.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, byddaf yn gohirio’r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.