Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Un nod syml sydd i’r cynnig un llinell hwn: rhoi rhywfaint o eglurder i’r sefyllfa gyfredol o ran polisi’r Llywodraeth ar adael yr UE. Rydym wedi gweld polisi sy’n ddryslyd, yn anhrefnus ac yn gwbl wag o unrhyw hygrededd. Mae’n amlwg y bydd hynny’n arwain at ganlyniadau hynod o niweidiol i fuddiannau pobl Cymru wrth i ni wynebu un o’r heriau mwyaf y mae unrhyw un ohonom wedi eu hwynebu yn ystod ein bywydau.
Gyda’r ymgais ddiweddaraf gan y Prif Weinidog, nid yw’n gymaint o dro pedol ganddo ag o birwét bob tro y saif ar ei draed. Ar ôl yr ymgais ddiweddaraf i egluro, yn y ‘Western Mail’, roeddwn yn fwy dryslyd nag erioed. Ymddengys nad oes ots beth rydym yn ei alw, felly gallwn ddweud beth a fynnwn, fel y mae ef yn ei wneud yn aml. Mae’n debyg ei fod o blaid mynediad i’r farchnad sengl, ac nid aelodaeth. Wel, i ddyfynnu’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae mynediad at y farchnad sengl yn gysyniad sydd bron â bod yn ddiystyr. Mae gan bob gwlad Ewropeaidd fynediad i’r farchnad ac ati o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Mae’n ymwneud â thelerau darparu’r mynediad hwnnw. Mae aelodaeth o’r farchnad sengl, fel y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi’i ddweud, yn golygu dileu rhwystrau i fasnach mewn ffordd nad oes unrhyw gytundeb masnach, undeb tollau neu gytundeb masnach rydd presennol yn gallu ei chynnig.
Rwy’n ei chael hi’n rhyfedd, ac nid wyf yn deall yn iawn pam fod y Prif Weinidog wedi ochri â’r rhai sy’n cefnogi telerau llym wrth adael yr UE—gydag UKIP a David Davis—yn erbyn Prif Weinidog yr Alban a Maer Llundain, sy’n gadarn o blaid aelodaeth o’r farchnad sengl. Hyd yn oed yn fwy rhyfedd, efallai, mae’r Prif Weinidog hefyd wedi ochri â Jeremy Corbyn, sydd hefyd wedi dweud ei fod yn erbyn aelodaeth o’r farchnad sengl. Dyma oedd gan ei wrthwynebydd, Owen Smith, i’w ddweud am y farn honno, a rennir bellach gan Lywodraeth Cymru:
Bydd degau o filoedd o aelodau’r Blaid Lafur ac undebwyr llafur yn bryderus wrth glywed ei bod yn ymddangos bod Jeremy Corbyn yn cytuno â David Davis nad yw ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl yn werth ymladd drosti.
Wrth gwrs, rydym wedi gweld y cysyniad ffug hwn o fynediad i’r farchnad sengl heb ryddid i symud yn cael ei gyflwyno fel polisi, ac eto, hyd yn oed yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi clywed llu o leisiau—y bobl a fydd yn penderfynu mewn gwirionedd ar y cytundeb terfynol ar gyfer gadael yr UE—yn dweud bod hyn yn amhosibl o safbwynt geowleidyddol. Mae Jean-Claude Juncker, Llywydd y Comisiwn, wedi dweud hynny yn ystod y dyddiau diwethaf; mae Guy Verhofstadt, prif drafodwr Senedd Ewrop, a fydd â phleidlais ar y cytundeb gadael, wedi dweud y byddai’n rhaid i’r DU dderbyn rhyddid i symud os yw eisiau mynediad i’r farchnad sengl. Mae’r gwledydd Visegrád yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop—pedair ohonynt—wedi dweud y byddant yn rhoi feto ar unrhyw gytundeb gadael a fydd yn atal rhyddid eu dinasyddion i symud. Mae Taoiseach Iwerddon wedi dweud na fydd yr UE yn caniatáu mynediad rhydd i’r farchnad sengl heb ryddid i symud ar y naill ochr a’r llall. A dywedodd Prif Weinidog Malta—a fydd, gyda llaw, yn Llywydd yr Undeb Ewropeaidd pan fydd y trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE yn dechrau—nad yw’n credu bod yna unrhyw sefyllfa y gellir trafod mynediad i’r farchnad sengl heb ryddid i symud.
Realiti hyn, wrth gwrs, yw bod safbwynt presennol Prif Weinidog Cymru yn hynod o niweidiol i Gymru. Mae Llywodraeth Japan wedi dweud yn glir fod busnesau Japaneaidd yn y DU wedi buddsoddi yma gan gredu y byddent yn gallu masnachu â gweddill yr UE ar yr un telerau ag unrhyw le arall yn Ewrop. Os nad ydym yn aelodau o’r farchnad sengl, o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, byddwn yn colli mynediad at Horizon 2020 ac Erasmus. Nid wyf yn ei ddeall.
Y rheswm pam mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn mabwysiadu’r safbwynt hwn yw oherwydd rhyddid i symud. Ac unwaith eto, ystyriaf fod hyn yn rhyfedd iawn, oherwydd, fel y nodwyd yn y Siambr, ar 24 Mehefin, y diwrnod ar ôl y canlyniad, dywedodd y Prif Weinidog, ac fe’i dyfynnwyd ar ITV a Wales Online, ac ar wefan Julie Morgan, fod cadw rhyddid pobl i symud yn un o’i linellau coch. Roedd hynny ar 24 Mehefin, y diwrnod ar ôl y canlyniad. Gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid pa bryd y newidiodd y polisi; ni chefais ateb. Gwiriais y datganiad gwreiddiol i’r wasg, ac mae’n wir nad oedd y datganiad ar wefan Llywodraeth Cymru—nid oedd y trydydd o’r chwe blaenoriaeth ar 24 Mehefin yn crybwyll rhyddid i symud. Ond—un o ryfeddodau bod yn ddwyieithog—gwiriais y fersiwn Gymraeg, sy’n sôn am ryddid i symud o dan y trydydd pwynt mewn gwirionedd, yn rhyfedd iawn. A yw hyn yn achos o ddatblygu polisi’n ôl-weithredol? Rydych yn newid eich meddwl, ac felly’n mynd yn ôl ac yn newid y polisi a’r datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd ar y pryd.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r Llywodraeth yn awr wedi cadarnhau eu bod wedi newid y datganiad gwreiddiol i’r wasg, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i ryddid i symud, a’u bod wedi anghofio newid y fersiwn Gymraeg. Yn ogystal â bod yn gamarweiniol, maent yn ddi-glem hefyd. Am gyfuniad i’w gael yn y Llywodraeth ar yr adeg hon. Gofynnais i Weinidog y Cabinet pryd y newidiodd y polisi. Wel, gwyddom yn union pryd bellach. Oherwydd aeth y datganiad gwreiddiol i’r wasg, yn Saesneg hefyd, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i ryddid i symud, allan am 9.20 y bore ar 24 Mehefin, ac fe’i cywirwyd am 10.20 y bore. Felly, yn ystod y cyfnod hwnnw o 44 munud, cawn ein harwain i gredu—. Yn ôl pob tebyg, roedd yna gyfarfod Cabinet, onid oedd? Yn ôl pob tebyg cafwyd trafodaeth gydag aelodau eraill y grŵp Llafur, a chydag aelod y Democratiaid Rhyddfrydol o’r Llywodraeth. Ni chyflwynwyd polisi ar fater sylfaenol gerbron y Cynulliad hwn; cafodd ei newid drwy ddictad mewn 44 munud. Nid dyna’r ffordd i redeg Llywodraeth mewn perthynas ag unrhyw beth, yn enwedig yng nghyswllt un o’r heriau pwysicaf sy’n wynebu ein pobl yn y genhedlaeth hon, mae’n debyg.