– Senedd Cymru ar 21 Medi 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef dadl arall gan Blaid Cymru, ar aelodaeth o farchnad sengl Ewrop. Galwaf ar Adam Price i gynnig y cynnig. Adam.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Un nod syml sydd i’r cynnig un llinell hwn: rhoi rhywfaint o eglurder i’r sefyllfa gyfredol o ran polisi’r Llywodraeth ar adael yr UE. Rydym wedi gweld polisi sy’n ddryslyd, yn anhrefnus ac yn gwbl wag o unrhyw hygrededd. Mae’n amlwg y bydd hynny’n arwain at ganlyniadau hynod o niweidiol i fuddiannau pobl Cymru wrth i ni wynebu un o’r heriau mwyaf y mae unrhyw un ohonom wedi eu hwynebu yn ystod ein bywydau.
Gyda’r ymgais ddiweddaraf gan y Prif Weinidog, nid yw’n gymaint o dro pedol ganddo ag o birwét bob tro y saif ar ei draed. Ar ôl yr ymgais ddiweddaraf i egluro, yn y ‘Western Mail’, roeddwn yn fwy dryslyd nag erioed. Ymddengys nad oes ots beth rydym yn ei alw, felly gallwn ddweud beth a fynnwn, fel y mae ef yn ei wneud yn aml. Mae’n debyg ei fod o blaid mynediad i’r farchnad sengl, ac nid aelodaeth. Wel, i ddyfynnu’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae mynediad at y farchnad sengl yn gysyniad sydd bron â bod yn ddiystyr. Mae gan bob gwlad Ewropeaidd fynediad i’r farchnad ac ati o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Mae’n ymwneud â thelerau darparu’r mynediad hwnnw. Mae aelodaeth o’r farchnad sengl, fel y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi’i ddweud, yn golygu dileu rhwystrau i fasnach mewn ffordd nad oes unrhyw gytundeb masnach, undeb tollau neu gytundeb masnach rydd presennol yn gallu ei chynnig.
Rwy’n ei chael hi’n rhyfedd, ac nid wyf yn deall yn iawn pam fod y Prif Weinidog wedi ochri â’r rhai sy’n cefnogi telerau llym wrth adael yr UE—gydag UKIP a David Davis—yn erbyn Prif Weinidog yr Alban a Maer Llundain, sy’n gadarn o blaid aelodaeth o’r farchnad sengl. Hyd yn oed yn fwy rhyfedd, efallai, mae’r Prif Weinidog hefyd wedi ochri â Jeremy Corbyn, sydd hefyd wedi dweud ei fod yn erbyn aelodaeth o’r farchnad sengl. Dyma oedd gan ei wrthwynebydd, Owen Smith, i’w ddweud am y farn honno, a rennir bellach gan Lywodraeth Cymru:
Bydd degau o filoedd o aelodau’r Blaid Lafur ac undebwyr llafur yn bryderus wrth glywed ei bod yn ymddangos bod Jeremy Corbyn yn cytuno â David Davis nad yw ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl yn werth ymladd drosti.
Wrth gwrs, rydym wedi gweld y cysyniad ffug hwn o fynediad i’r farchnad sengl heb ryddid i symud yn cael ei gyflwyno fel polisi, ac eto, hyd yn oed yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi clywed llu o leisiau—y bobl a fydd yn penderfynu mewn gwirionedd ar y cytundeb terfynol ar gyfer gadael yr UE—yn dweud bod hyn yn amhosibl o safbwynt geowleidyddol. Mae Jean-Claude Juncker, Llywydd y Comisiwn, wedi dweud hynny yn ystod y dyddiau diwethaf; mae Guy Verhofstadt, prif drafodwr Senedd Ewrop, a fydd â phleidlais ar y cytundeb gadael, wedi dweud y byddai’n rhaid i’r DU dderbyn rhyddid i symud os yw eisiau mynediad i’r farchnad sengl. Mae’r gwledydd Visegrád yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop—pedair ohonynt—wedi dweud y byddant yn rhoi feto ar unrhyw gytundeb gadael a fydd yn atal rhyddid eu dinasyddion i symud. Mae Taoiseach Iwerddon wedi dweud na fydd yr UE yn caniatáu mynediad rhydd i’r farchnad sengl heb ryddid i symud ar y naill ochr a’r llall. A dywedodd Prif Weinidog Malta—a fydd, gyda llaw, yn Llywydd yr Undeb Ewropeaidd pan fydd y trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE yn dechrau—nad yw’n credu bod yna unrhyw sefyllfa y gellir trafod mynediad i’r farchnad sengl heb ryddid i symud.
Realiti hyn, wrth gwrs, yw bod safbwynt presennol Prif Weinidog Cymru yn hynod o niweidiol i Gymru. Mae Llywodraeth Japan wedi dweud yn glir fod busnesau Japaneaidd yn y DU wedi buddsoddi yma gan gredu y byddent yn gallu masnachu â gweddill yr UE ar yr un telerau ag unrhyw le arall yn Ewrop. Os nad ydym yn aelodau o’r farchnad sengl, o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, byddwn yn colli mynediad at Horizon 2020 ac Erasmus. Nid wyf yn ei ddeall.
Y rheswm pam mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn mabwysiadu’r safbwynt hwn yw oherwydd rhyddid i symud. Ac unwaith eto, ystyriaf fod hyn yn rhyfedd iawn, oherwydd, fel y nodwyd yn y Siambr, ar 24 Mehefin, y diwrnod ar ôl y canlyniad, dywedodd y Prif Weinidog, ac fe’i dyfynnwyd ar ITV a Wales Online, ac ar wefan Julie Morgan, fod cadw rhyddid pobl i symud yn un o’i linellau coch. Roedd hynny ar 24 Mehefin, y diwrnod ar ôl y canlyniad. Gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid pa bryd y newidiodd y polisi; ni chefais ateb. Gwiriais y datganiad gwreiddiol i’r wasg, ac mae’n wir nad oedd y datganiad ar wefan Llywodraeth Cymru—nid oedd y trydydd o’r chwe blaenoriaeth ar 24 Mehefin yn crybwyll rhyddid i symud. Ond—un o ryfeddodau bod yn ddwyieithog—gwiriais y fersiwn Gymraeg, sy’n sôn am ryddid i symud o dan y trydydd pwynt mewn gwirionedd, yn rhyfedd iawn. A yw hyn yn achos o ddatblygu polisi’n ôl-weithredol? Rydych yn newid eich meddwl, ac felly’n mynd yn ôl ac yn newid y polisi a’r datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd ar y pryd.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r Llywodraeth yn awr wedi cadarnhau eu bod wedi newid y datganiad gwreiddiol i’r wasg, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i ryddid i symud, a’u bod wedi anghofio newid y fersiwn Gymraeg. Yn ogystal â bod yn gamarweiniol, maent yn ddi-glem hefyd. Am gyfuniad i’w gael yn y Llywodraeth ar yr adeg hon. Gofynnais i Weinidog y Cabinet pryd y newidiodd y polisi. Wel, gwyddom yn union pryd bellach. Oherwydd aeth y datganiad gwreiddiol i’r wasg, yn Saesneg hefyd, a oedd yn cynnwys ymrwymiad i ryddid i symud, allan am 9.20 y bore ar 24 Mehefin, ac fe’i cywirwyd am 10.20 y bore. Felly, yn ystod y cyfnod hwnnw o 44 munud, cawn ein harwain i gredu—. Yn ôl pob tebyg, roedd yna gyfarfod Cabinet, onid oedd? Yn ôl pob tebyg cafwyd trafodaeth gydag aelodau eraill y grŵp Llafur, a chydag aelod y Democratiaid Rhyddfrydol o’r Llywodraeth. Ni chyflwynwyd polisi ar fater sylfaenol gerbron y Cynulliad hwn; cafodd ei newid drwy ddictad mewn 44 munud. Nid dyna’r ffordd i redeg Llywodraeth mewn perthynas ag unrhyw beth, yn enwedig yng nghyswllt un o’r heriau pwysicaf sy’n wynebu ein pobl yn y genhedlaeth hon, mae’n debyg.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1 yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i economi Cymru gael mynediad i Farchnad Sengl yr UE.
2. Yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a’r UE, ar ôl i’r DU adael yr UE.
3. Yn croesawu’r diddordeb mewn sefydlu cytundebau masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau’r fargen orau i Gymru.
Cynigiaf welliant 1, gan nodi pa mor bwysig yw cael mynediad i Farchnad Sengl yr UE i economi Cymru; gan alw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a’r UE ar ôl i’r DU adael yr UE; gan groesawu’r diddordeb mewn sefydlu cytundebau masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd; a chan alw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau’r fargen orau i Gymru.
Fel y clywsom, ymddengys bod Carwyn Jones wedi anghofio ei ymrwymiad i gadw’r rhyddid i bobl symud. Roedd ei ddatganiad ar 13 Medi yn galw am barhau mynediad i’r farchnad sengl i nwyddau a gwasanaethau. Ond roedd ei ddatganiad ar 24 Mehefin wedi mynd ymhellach, pan ddywedodd, mae’n hanfodol i’r Deyrnas Unedig gynnal trafodaethau i gadw mynediad at y 500 miliwn o gwsmeriaid yn y Farchnad Sengl, a pharhau i ganiatáu i bobl symud yn rhydd.
O ystyried bod yr UE yn mynnu bod aelodaeth lawn o’r farchnad sengl Ewropeaidd yn galw am ryddid i symud nwyddau, gwasanaethau a phobl, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau, felly, ei fod bellach yn ceisio mynediad yn hytrach nag aelodaeth lawn?
Fel y nodais yr wythnos diwethaf, ddau fis yn ôl, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Adael yr Undeb Ewropeaidd fod gan y DU 10 o gytundebau masnach yn yr arfaeth eisoes ar gyfer y cyfnod wedi i Brydain adael yr UE. Dywedwyd wrthym y byddem yng nghefn y ciw am gytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau, ond ymddengys bellach ei bod yn bosibl y ceir cytundeb rhwng y DU ac UDA cyn y ceir cytundeb rhwng yr UE ac UDA. Mae’n bosibl fod yr un peth yn wir am Ganada, sy’n sicr â mwy o ddiddordeb mewn cytundeb dwyochrog â Llundain nag mewn dadleuon diddiwedd â diffyndollwyr cyfandirol. O Awstralia i Uruguay, mae gwledydd yn awyddus iawn i arwyddo cytundebau masnach â’r Deyrnas Unedig.
Pan ymwelodd Theresa May â Chymru am y tro cyntaf fel Prif Weinidog ym mis Gorffennaf, dywedodd ei bod am i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o’r trafodaethau ynglŷn â gadael yr UE. Yn amlwg, rydym yn cefnogi hynny’n fawr. Felly, gadewch i ni ddod at ein gilydd i hyrwyddo mentrau megis ymgyrch New Opportunities Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru i sicrhau bod ffermio, yr economi wledig a’r amgylchedd yng Nghymru yn cael eu trin fel blaenoriaeth wrth i’r DU baratoi ar gyfer gadael yr UE. Maent yn optimistaidd ac yn gweld potensial sylweddol i wneud pethau’n well, ond er mwyn gwneud hyn, maent yn galw ar Lywodraethau Caerdydd a San Steffan i weithio gyda’i gilydd i flaenoriaethu amaethyddiaeth ac allforion bwyd mewn trafodaethau ar adael yr UE a thrafodaethau masnach, a gwella diogelwch i ddefnyddwyr a’r amgylchedd, gan leihau’r baich ar fusnesau.
Pan bleidleisiodd pobl i adael yr UE ar 23 Mehefin, roeddent yn pleidleisio dros reolaeth. Mae hynny’n golygu mai mater i bobl Prydain a Chymru, a’r Seneddau a’r Llywodraethau y maent yn eu hethol, yw’r hyn y mae Prydain yn ei wneud ar ôl i ni adael yr UE. Nid yw’r broses hon yn ymwneud â dewis pa rannau o’n haelodaeth o’r UE rydym yn eu hoffi ac yn awyddus i’w cadw; mae’n ymwneud â chreu rôl newydd i ni ein hunain yn y byd—cytundeb wedi’i lunio’n bwrpasol ar ein cyfer ni, nid cytundeb parod. Nid cytundeb fel un y Swistir neu gytundeb fel un Norwy fydd hwn, nac unrhyw wlad arall y gallwch feddwl amdani; bydd yn gytundeb ar gyfer y DU. Mae Prydain yn genedl feiddgar sy’n edrych tuag allan, neu a ddylwn ddweud ‘teulu o genhedloedd’? Mae’n bumed economi fwyaf yn y byd; yr economi fawr a dyfodd gyflymaf ond un drwy’r byd y llynedd, ac sydd ymysg y chwe gwlad orau yn y byd fel lle i wneud busnes, gyda chyflogaeth ar ei lefel uchaf a bron ddwy ran o dair o’r diffyg wedi ei dorri ers ei uchafbwynt yn 2010. Felly, gallwn fod yn hyderus ynglŷn â chryfderau sylfaenol economi’r DU ac yn optimistaidd am y rôl y byddwn yn ei chreu ar gyfer y DU a Chymru, gan adeiladu ar ein cryfder fel undeb gwych o genhedloedd sy’n masnachu yn y dyfodol.
Bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a byddwn yn creu perthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd. Bydd y berthynas newydd honno yn cynnwys rheolaeth dros ryddid pobl i symud o’r UE i’r DU, ond bydd hefyd yn cynnwys y cytundeb cywir o ran masnachu nwyddau a gwasanaethau. Dyna sut i fynd ati. Dywedodd Theresa May wrth Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ddoe ein bod wedi ymrwymo i roi mwy o reolaeth i bobl Prydain ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd hefyd nad oedd y DU wedi pleidleisio’n fewnblyg wrth gefnogi’r syniad o adael yr UE, ac na fyddai’r DU yn troi cefn ar ein partneriaid yn y byd. Amen i hynny.
Credaf ei bod yn werth ailadrodd nad oeddem yn dymuno gadael yr UE, ond roedd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn anghytuno, ac er fy mod yn cydymdeimlo’n fawr â chynnig Simon Thomas ar ran Plaid Cymru, gan nodi pwysigrwydd aelodaeth o’r farchnad sengl Ewropeaidd, sydd wedi bod yn hynod o bwysig i economi Cymru, roedd canlyniad y refferendwm yn glir. A’r unig ffordd y gallwn fod yn aelodau o’r farchnad sengl Ewropeaidd yw drwy fod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Felly, ni allwn gefnogi’r cynnig. Rydym yn cefnogi gwelliant Paul Davies, gan fod mynediad at y farchnad sengl yn rhywbeth y mae’r Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro ein bod yn ei gefnogi—mynediad llawn a dilyffethair.
Ond mae’n eironig gweld y Torïaid yn gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurder. Nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi unrhyw eglurder i ni. Hwy sydd wedi ein rhoi ar y llwybr i adael yr UE; hwy sydd wedi methu cynllunio ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd nesaf. Nid oeddem eisiau gadael. Buom yn rhybuddio am y canlyniadau economaidd. Rhybuddiodd y Prif Weinidog y byddai Cymru ar ei cholled pe baem y tu allan i’r farchnad sengl. Cawsom addewidion gan ein Hysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, y byddem yn ffynnu y tu allan i’r UE. Ei gyfrifoldeb ef a Phrif Weinidog y DU yn awr yw egluro’n union sut y gallwn wneud hynny.
Fy mhryder yw sut yr awn i’r afael â’r anfodlonrwydd sylfaenol a daniodd y bleidlais i adael. Yn fy marn i, bloedd o boen oedd y refferendwm. Roedd pleidleiswyr y siaradais â hwy yn Llanelli wedi cael llond bol ac yn meddwl nad oedd ganddynt unrhyw beth i’w golli. Ers datganoli, rydym wedi llwyddo i sefydlogi perfformiad economaidd Cymru ond rydym wedi bod yn nofio yn erbyn llif y model economaidd sy’n crynhoi cyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr ac yn dibynnu arno i ddiferu i lawr i rannau eraill. Mae’r dull hwnnw wedi methu. Roedd y bleidlais i adael yn brotest yn erbyn hynny lawn cymaint ag yr oedd yn brotest yn erbyn yr UE. Gallem ddefnyddio gadael yr UE fel sbardun i ddatblygu strategaeth economaidd radical sy’n mynd i’r afael â chanlyniadau tebygol gadael yr UE, ac sy’n ailsefydlu Cymru fel ffwrnais orllewinol o arloesedd a diwydiant.
Mae’r chwyldro digidol yn trawsnewid y byd rydym yn byw ynddo yn gyflymach nag erioed. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir neu byddwn yn cael ein gadael ar ôl. Mae angen i ni adeiladu ar yr hyn sydd gennym. Mae gwaith yr Athro Karel Williams ar yr economi sylfaenol wedi ei seilio ar ei astudiaeth o’i dref enedigol, Llanelli. Efallai nad ydynt yn sectorau deniadol, ond mae llawer y gallwn ei wneud gyda’r pethau bob dydd: bwyd, ynni a gofal iechyd. Mae cwmnïau mawr preifat yn dominyddu’r sectorau hyn bellach. Dyma ble mae angen i ni adfer rheolaeth; nid chwalu rheolau masnach y dibynnwn arnynt, ond adfer rheolaeth ar ein heconomi leol er lles ein cymunedau a’r pedwar o bob 10 o weithwyr Cymru a gyflogir yn y sectorau bob dydd hyn.
Gwrandewais â diddordeb ar araith Adam Price. Y penderfyniad i adael yr UE oedd y sioc fwyaf mewn polisi tramor ers y rhyfel. Mae wedi ansefydlogi’r marchnadoedd. Nid oes rhyfedd ei fod wedi ansefydlogi Llywodraethau. Mae’r Prif Weinidog yn ymwybodol iawn fod yr achos dros adael yr UE wedi cael ei werthu ar sail yr arian ychwanegol i’r GIG a system bwyntiau fel Awstralia. Nid oeddem yn cefnogi hynny, ond roedd ein pleidleiswyr yn ei gefnogi, ac ni ddylem anwybyddu’r gwersi hynny. Mae’n rhaid i ni roi lle i Lywodraeth y DU ddod o hyd i atebion. Rhannaf ei amheuaeth na fydd hynny’n gweithio. Rwy’n rhannu’r amheuaeth. [Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr a oes gennyf amser i ildio.
Penderfynwch chi.
Rhannaf ei amheuaeth, ond gadewch i ni roi lle iddynt brofi y gallant gyflawni’r hyn yr oeddent yn dweud y gallent ei gyflawni.
Eich dewis chi yw derbyn ymyriad ai peidio.
Os oes gennyf amser, rwy’n hapus i dderbyn.
Diolch i’r Aelod dros Lanelli am ildio. A all gadarnhau, yn seiliedig ar yr hyn y mae newydd ei ddweud, sy’n arwyddocaol iawn yn fy marn i, mai polisi Llafur Cymru bellach yw cefnogi system bwyntiau fel Awstralia yn bolisi mewnfudo yn y Deyrnas Unedig? [Torri ar draws.] Dyna pam rwy’n gofyn am eglurhad.
Wel, rwy’n hapus i egluro. Wrth gwrs, nid yw hynny—nid mai fi sy’n penderfynu ar bolisi Llafur Cymru. Fy mhwynt yw fy mod yn ceisio esbonio safbwynt y Prif Weinidog, sef ei fod yn ymwybodol iawn o’r neges a anfonodd ein pleidleiswyr, mewn cyferbyniad â’r neges a roesom iddynt hwy. Gwrandawsant ar gelwyddau’r ymgyrch dros adael y byddai gadael yr UE yn arwain at ymagwedd wahanol at fewnfudo ac arian ychwanegol ar gyfer y GIG. Rhannaf yr amheuaeth y caiff hynny ei gyflawni. Ond ni allwn ddweud yn syml, ‘Ni chlywsom y neges honno ac rydym yn cefnogi rhyddid i symud fel y mae wedi’i ffurfio ar hyn o bryd.’ Gadewch i ni roi lle i Lywodraeth y DU lunio cytundeb, fel y maent wedi dweud y byddant yn ei wneud. Rwy’n amau y bydd y cytundeb yn ymarferol, a dyna pam y credaf efallai y byddwn yn dychwelyd at y cwestiwn hwn. Ond nid ein lle ni yw llenwi’r bylchau yn yr hyn y maent yn ei feddwl. Yr hyn rwy’n ei ddweud yw, ‘Dewch i ni ganolbwyntio ar y pethau a gymhellodd ein pleidleiswyr i wrthod Ewrop.’ Dywedir, ‘Peidiwch byth â gwastraffu argyfwng.’ Felly, gadewch i ni beidio â gwastraffu’r cyfle hwn i ailwampio ein heconomi, i ailffocysu ar yr hyn sy’n bwysig.
Wel, unwaith eto rydym yn gweld Plaid Cymru eisiau anwybyddu dymuniadau etholwyr Cymru. A yw hyn oherwydd nad yw Plaid Cymru yn credu bod y proletariat yn ddigon deallus i wneud penderfyniad gwybodus? Un o’r rhesymau allweddol a glywsom dro ar ôl tro ar garreg y drws oedd ‘Dim rhyddid i bobl symud.’ Pa bryd y bydd Plaid Cymru yn gwrando ar y bobl?
[Anghlywadwy.]—cytuno â chi yn awr, David. Felly, wyddoch chi, dathlwch fuddugoliaeth; maent yn cytuno â pholisi UKIP.
Diolch. [Torri ar draws.] Ar bob cyfrif, ond nid yw hynny’n cydnabod y ffaith eich bod yn anwybyddu ewyllys y Cymry, a roddwyd i chi mewn pleidlais ddemocrataidd.
A ydych chi wedi gorffen?
Ydw.
Diolch yn fawr iawn. Neil Hamilton.
Mae gallu fy nghyfaill anrhydeddus i fod yn gryno i’w ganmol yn wir. [Chwerthin.] Nid wyf yn sicr y byddaf yn gallu ei efelychu, ond yr hyn sy’n rhaid i rywun ei wneud, rwy’n meddwl, ym mhob un o’r dadleuon hyn ar y farchnad sengl yw cadw pethau mewn persbectif. Mae cyfanswm yr allforion i’r UE—gan siarad am y DU yn awr—oddeutu 5 y cant o’r cynnyrch domestig gros ac o’r 5 y cant hwnnw, byddai 65 y cant o’r fasnach yn ddarostyngedig i lefel tariff o 4 y cant o’r uchafswm pe na baem yn dod i unrhyw gytundeb o gwbl gyda’r UE. Felly, tua thraean o hynny’n unig—1.5 y cant o’r cynnyrch domestig gros—a fyddai’n ddarostyngedig i lefel gyfartalog o dariffau o tua 15 y cant. Nid ydym yn sôn am set o ffigurau sy’n newid popeth yma. Wrth gwrs, byddai’n creu problemau trosiannol i rai diwydiannau pe na bai cytundeb masnach yn cael ei wneud gyda’r UE, ond mae’n bendant iawn yn fanteisiol i’r UE ddod i drefniant masnach rydd gyda ni. Bydd y diffyg yn ein masnach â’r UE eleni yn agos at £100 biliwn y flwyddyn.
Os edrychwn ar geir er enghraifft, mae’r diffyg mewn ceir yn unig yn £23 biliwn ac o’r £23 biliwn hwnnw, mae £20 biliwn ohono gyda’r Almaen yn unig. Rydym yn prynu 820,000 o geir o’r Almaen yn y wlad hon bob blwyddyn. A yw’n debygol y bydd Llywodraeth yr Almaen yn hwyluso sefyllfa lle nad oes cytundeb masnach olynol gyda’r DU? Nid wyf yn credu ei bod yn bosibl. Mae’r Almaen nid yn unig yn injan i economi Ewrop, gan fod hanner economïau yr UE yn anobeithiol, yn bennaf oherwydd eu bod yn ardal yr ewro, ond economi’r Almaen yw injan economi Ewrop ac wrth gwrs, hi yw pwerdy penderfyniadau gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal. Wrth gwrs, mae’r Canghellor Merkel yn awr mewn trafferthion gwleidyddol difrifol iawn yn ei gwlad ei hun oherwydd ei methiant i gydnabod y problemau gwleidyddol a achosir gan fewnfudo torfol heb reolaeth, i mewn i’r UE ac o’i fewn. Yn syml iawn, mae hyn yn rhywbeth sy’n rhaid ei gydnabod. Ni allaf ddeall ymagwedd gibddall Plaid Cymru a rhai yn y Blaid Lafur hefyd sydd i’w gweld yn meddwl nad yw mewnfudo torfol yn broblem. Felly, mae’n annirnadwy yn fy marn i fod y Llywodraeth—unrhyw Lywodraeth—yn dilyn canlyniad y refferendwm, yn gallu mabwysiadu polisi o aelodaeth lawn o’r farchnad sengl mewn unrhyw fodd, oherwydd, fel y dywedodd Simon Thomas, mae Lee Waters yn byw mewn ffantasi os yw’n credu y gallwch fod yn y farchnad sengl heb gael mewnfudo heb reolaeth. Felly, mae bod fel Norwy, yn rhan o’r farchnad sengl, hefyd yn golygu bod rhaid i chi gael rhyddid i bobl symud o fewn yr UE ac unrhyw wledydd sydd â chytundeb â’r UE.
Felly, rwy’n meddwl bod rhaid i ni weld mai mantais go iawn yr opsiynau y mae’r refferendwm yn eu rhoi i ni yw ein rhyddid i fasnachu â gweddill y byd a tharo bargeinion masnach gyda gwledydd eraill, fel y mae Mark Isherwood wedi nodi, yn hytrach nag aelodaeth o’r farchnad sengl. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â’r rhyddid i’n Llywodraeth benderfynu drosom ein hunain y polisi sy’n mynd i lywodraethu ein pobl ein hunain a’r deddfau sy’n cael eu gwneud yn y wlad hon fel bod ein gwleidyddion eu hunain, sy’n atebol i’r etholwyr mewn etholiadau, yn gyfrifol mewn gwirionedd am wneud y penderfyniadau hynny.
Felly, mae hwn yn gyfle gwych. Mae yna heriau, wrth gwrs, ond mae’r heriau’n fach o’u cymharu â’r cyfleoedd, ac felly rwy’n croesawu’r ffaith fod y Prif Weinidog wedi troi at bolisi UKIP ar ymfudo ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn heintio’r pleidiau eraill hefyd a bod Llywodraeth Lafur yma yng Nghaerdydd yn gweld y cyfleoedd enfawr sy’n agored i Gymru o ganlyniad i benderfyniad y bobl, a orfodwyd arnynt ar 23 Mehefin.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a dechrau drwy ddweud ein bod, fel Llywodraeth, wedi bod yn hollol glir am bwysigrwydd mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE? Mae hon yn flaenoriaeth sylfaenol. Mae’n rhaid i ni gael mynediad di-dariff i nwyddau a gwasanaethau i farchnad sengl yr UE heb unrhyw rwystrau technegol.
Rydym hefyd wedi bod yn hollol glir fod Cymru ar agor i fusnes ac nid ydym wedi gwyro oddi wrth y neges hon ers y bleidlais i adael yr UE. Mae’r hanfodion sy’n gwneud Cymru yn lle gwych i fyw, gweithio a buddsoddi yn parhau. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu gwaith sylweddol a heriol ar ddadansoddi ystod eang o ddata ac opsiynau i helpu i lywio safbwynt Cymru.
Nid yw’r materion hyn yn syml. Mae’r grŵp ymgynghorol Ewropeaidd yn cyfarfod yr wythnos nesaf ac mae gan Gyngor Adnewyddu’r Economi gyfraniad pwerus i wneud. Ar draws y sectorau, rydym yn gwrando ac wrth gwrs, rydym yn gwrando yma yn y Siambr hon. Rydym yn croesawu cyfraniadau i’r ddadl am ein buddiannau yn y dyfodol. Maes o law, byddwn yn nodi manylion llawnach am ein dull o weithredu mewn perthynas â’r trafodaethau er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl i bobl Cymru. Yr hyn na ddylem ei wneud yn awr yw caniatáu i’r drafodaeth ganolbwyntio ar derminoleg yn hytrach na sylwedd. Mae hyn yn ymwneud â diogelu swyddi a thwf economaidd, ac rwy’n meddwl y dylem i gyd gytuno ar hynny.
Ein rheswm dros wrthwynebu’r cynnig yw ein bod o’r farn fod siarad am aelodaeth lawn o’r farchnad sengl yn drysu yn hytrach nag egluro’r hyn a olygwn, gan mai aelod-wladwriaethau’n unig sy’n aelodau diamheuol o’r farchnad sengl ac mae parhau aelodaeth o’r UE yn amlwg yn anghydnaws â chanlyniad y refferendwm. Yr hyn sydd gan wledydd eraill y tu allan i’r UE—fel Norwy, Gwlad yr Iâ, y Swistir ac eraill—yw cytundebau amrywiol ac wedi eu trafod â’r Undeb Ewropeaidd. Bwriad datganedig Llywodraeth y DU yw peidio â chymryd model sy’n bodoli eisoes oddi ar y silff, ond trafod cytundeb penodol sy’n adlewyrchu diddordebau amrywiol y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Dyna yw bwriad Llywodraeth y DU, a’n nod ni yw sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli’n llawn ac yn bresennol yn y trafodaethau hynny.
Felly, yn y ddadl hon, gadewch i ni ganolbwyntio ar sylwedd. Mae ein prif nod economaidd yn un syml, ac yn un rwyf wedi bod yn gwbl glir yn ei gylch ers 23 Mehefin. Rhaid i ni barhau i gael mynediad llawn a dilyffethair i nwyddau a gwasanaethau i farchnad sengl yr UE. Mae ‘dilyffethair’ yn golygu heb dariffau, cwotâu na rhwystrau technegol. Rwy’n derbyn bod Plaid Cymru wedi dweud droeon—er enghraifft, mae Steffan Lewis ei hun wedi ei ddweud—os mai aelodaeth lawn o’r farchnad sengl yw’r opsiwn gorau i Gymru, dyna beth y dylai Prif Weinidog Cymru ddadlau drosto. Rwy’n derbyn safbwynt Plaid Cymru, ond ni allaf gytuno ag ef am y rheswm syml nad yw bod yn aelod o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop yn golygu bod yn aelod o’r farchnad sengl yn awtomatig. Yn wir, gadewch i ni weld sut y maent yn disgrifio eu hunain ar eu gwefan eu hunain. Maent yn dweud mai cytundeb rhyngwladol yw Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop sy’n galluogi’r tair gwladwriaeth hon yng Nghymdeithas Masnach Rydd Ewrop i gymryd rhan yn y farchnad sengl, nid i fod yn aelodau o’r farchnad sengl. Mae bod yn aelodau o’r farchnad sengl yn golygu bod gennych hawliau pleidleisio, bod gennych hawl i wneud penderfyniadau—mae’n golygu bod yn aelod o’r UE. [Torri ar draws.] Gadewch i ni gael ychydig o ostyngeiddrwydd yn y Siambr hon. Fe golloch chi ar 23 Mehefin. Collwyd y bleidlais. Fe gollon ni i gyd—fe gollon ni gyda’n gilydd. Gadewch i ni dderbyn hynny. Y gwahaniaeth yw fy mod yn derbyn yr hyn a ddywedodd pobl Cymru. Nawr, rwy’n credu eich bod wedi gwneud penderfyniad dewr neu feiddgar yn eich cynnig i anwybyddu hynny.
A wnewch chi ildio?
Yn bendant.
Mae’n dweud wrthym nad yw aelodaeth o’r farchnad sengl yn bodoli y tu allan i’r UE mewn gwirionedd. Felly, pam oedd cyn-Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru, Owen Smith, yn dweud mai dyna yw ei bolisi? A oedd yntau ond yn dweud hynny hefyd?
Ni allaf siarad ar ran Owen Smith, ond y pwynt rydych yn ei wneud yw y byddech yn dymuno i Gymru, yn erbyn ewyllys y bobl, i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, pan oedd y canlyniad yn glir iawn ar 23 Mehefin. Ni allwch fod yn aelod o’r farchnad sengl heb fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Fe sonioch am ostyngeiddrwydd ychydig yn gynharach. Mae’n rhaid eich bod yn cydnabod bod safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid ers 24 Mehefin, pan oedd pwynt 3 o’r chwe phwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn sôn am nwyddau, gwasanaethau a phobl. Sylwaf nad ydych wedi dweud ‘pobl’ unwaith heddiw. Rwy’n digwydd cytuno â’r pwyntiau rydych yn eu gwneud, ond rydych wedi symud y safbwynt, ac mae safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid.
Dof at y pwynt ynglŷn â phobl, ond os caf eich atgoffa o’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrthych yn uniongyrchol mewn ymateb i gwestiwn ddoe, pan ofynnoch yr un cwestiwn iddo am symudiad pobl, fe ddywedodd:
‘Mynediad at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yw’r llinell goch; mae’r mater o symudiad rhydd pobl yn rhywbeth y bydd angen ei archwilio a’i drafod yn rhan o’r trafodaethau.’
Oherwydd mae’r mater sy’n rhaid i ni ei ddadansoddi yn gymhleth iawn. Yr hyn rwyf eisiau ei wneud yw sicrhau bod yr hyn a gawn o’r cytundeb er lles gorau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Fel rwy’n dweud, rydym eisiau—[Torri ar draws.] Fel rwy’n dweud, mae’n amlwg iawn ein bod eisiau mynediad dilyffethair i’r farchnad sengl fel bod Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol i fuddsoddwyr ac allforwyr. Rydym hefyd eisiau setliad cadarn, yn amlwg, i wneud iawn am unrhyw wariant a gollwyd o’r Undeb Ewropeaidd, ac rydym eisiau sector ffermio diogel.
Mae economi Cymru mewn sefyllfa hynod o gryf. Rydym yn perfformio’n well na rhannau eraill o’r DU o ran gostwng lefelau diweithdra ac yn wir, gwelsom y gostyngiad cyflymaf yn y gyfradd ddiweithdra dros y 12 mis diwethaf. Ond rhaid i ni adeiladu ar ein llwyddiannau a datblygu blaenoriaethau economaidd sy’n cyflawni dros bawb yng Nghymru ym mhob cymuned yn ein gwlad, fel y dywedodd Lee Waters yn gywir.
Nawr, gan ddychwelyd at y pwynt ynglŷn â rhyddid pobl i symud a grybwyllodd yr Aelod o’r wrthblaid, arweinydd y blaid Geidwadol, yn gyntaf, gadewch i mi fod yn glir iawn ynglŷn â’n safbwynt fod dinasyddion yr UE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn aelodau a werthfawrogir o’n cymdeithas ac felly, yn sicr dylent allu aros yma ar ôl i’r DU adael yr UE. Mae ein heconomi, ein diwylliant, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymdeithas wedi elwa’n aruthrol o gyfraniad dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru. Gadewch i mi gondemnio’n gwbl glir unrhyw senoffobia neu hiliaeth a anelir at aelodau o’r gymuned o fewnfudwyr, boed yn ddinasyddion yr UE neu fel arall.
Roedd ymfudo yn bwnc arwyddocaol iawn yn nadl refferendwm yr UE, ac mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bwriad i gyflwyno mesurau rheoli pellach. Mae hyn ymhlith y materion y byddwn yn eu trafod â Llywodraeth y DU, gyda’n partneriaid datganoledig a’n rhanddeiliaid. Mae ymfudwyr yn rhan hanfodol o’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus ac rydym yn gweithio i ddeall yn fwy manwl beth yw ein hanghenion ar gyfer y dyfodol. Nid ydym am weld rheolaethau’n cael eu cyflwyno a fyddai’n amharu ar ddiogelwch swyddi neu greu swyddi ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru, ac ni fyddem yn dymuno gweld niwed yn cael ei achosi i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Gadewch i mi ddatgan yn glir iawn na fyddwn yn goddef unrhyw fath o hiliaeth neu ragfarn yng Nghymru. Aelodau, gallaf eich sicrhau, er y byddwn efallai yn gwrando ar bryderon ynglŷn â mewnfudo, ac yn ymateb iddynt, byddwn hefyd yn sefyll yn gadarn yn erbyn gwahaniaethu.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Adam Price i ymateb i’r ddadl yn fyr, diolch.
Wel, rwy’n meddwl bod yn rhaid bod yr hyn rydym newydd ei glywed gan y Gweinidog yn ein llenwi ni i gyd â theimlad o anobaith. Gan fy mod yn sylweddoli bod gwahanol safbwyntiau yn y Siambr hon o ran y ffordd orau i Gymru adael yr UE, a chânt eu harddel am resymau dilys a diffuant, ond rwy’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn cytuno bod angen eglurder ac arweiniad gan y Llywodraeth, gan eu bod yn brin ar hyn o bryd. Nawr dywedir wrthym y bydd mwy o fanylder—mwy o fanylion—yn ymddangos ar ryw bwynt ynglŷn â pholisi’r Llywodraeth.
Rydym wedi clywed y Gweinidog yn honni nad yw aelodaeth o’r farchnad sengl tu allan i’r UE yn bodoli. Fe’i gelwir yn Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae wedi bodoli ers 1992. Cafodd ei chreu ar yr un pryd â’r Act Ewropeaidd gyfun. Wyddoch chi—[Torri ar draws.]—Ydy, mae’n wir nad yw pob aelod o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ond mae’r rhai sydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn aelodau o’r farchnad sengl, ac fe ddywedaf wrthych pam ei fod o bwys, Lee Waters. Mae o bwys i rai o’r cwmnïau cydrannau modurol yn eich etholaeth, oherwydd, os nad ydych yn aelodau o’r farchnad sengl, yr hyn sy’n digwydd pan fyddwch yn cyrraedd ffin yr UE yw bod yn rhaid cynnal profion gorfodol ar yr holl gydrannau. Mae hynny’n golygu 10 diwrnod o oedi. Yn oes cynhyrchu mewn union bryd, mae hynny’n lladd eich cadwyn gyflenwi yn y sector modurol. Dyna pam y mae aelodaeth o’r farchnad sengl yn bwysig.
A siarad am ostyngeiddrwydd: rwyf newydd rannu gydag Aelodau’r Cynulliad y ffaith fod y Llywodraeth nid yn unig wedi newid ei pholisi heb ddweud wrthym, mewn gwirionedd maent wedi newid y datganiad i’r wasg gwreiddiol roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyfeirio ato. Pam- I arbed cywilydd i’r Prif Weinidog? Nid wyf yn siŵr ai llanast neu gynllwyn yw hyn, ond nid yw’n dderbyniol i chi ddweud un peth, ac yna, pan fydd eich barn yn newid, neu eich amgylchiadau’n newid, rydych yn newid y datganiad i’r wasg ac nid oes ymddiheuriad hyd yn oed yn cael ei roi i Aelodau’r lle hwn.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr iawn. Felly, byddwn yn gohirio’r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.