Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 21 Medi 2016.
Wel, unwaith eto rydym yn gweld Plaid Cymru eisiau anwybyddu dymuniadau etholwyr Cymru. A yw hyn oherwydd nad yw Plaid Cymru yn credu bod y proletariat yn ddigon deallus i wneud penderfyniad gwybodus? Un o’r rhesymau allweddol a glywsom dro ar ôl tro ar garreg y drws oedd ‘Dim rhyddid i bobl symud.’ Pa bryd y bydd Plaid Cymru yn gwrando ar y bobl?