Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a dechrau drwy ddweud ein bod, fel Llywodraeth, wedi bod yn hollol glir am bwysigrwydd mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE? Mae hon yn flaenoriaeth sylfaenol. Mae’n rhaid i ni gael mynediad di-dariff i nwyddau a gwasanaethau i farchnad sengl yr UE heb unrhyw rwystrau technegol.
Rydym hefyd wedi bod yn hollol glir fod Cymru ar agor i fusnes ac nid ydym wedi gwyro oddi wrth y neges hon ers y bleidlais i adael yr UE. Mae’r hanfodion sy’n gwneud Cymru yn lle gwych i fyw, gweithio a buddsoddi yn parhau. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu gwaith sylweddol a heriol ar ddadansoddi ystod eang o ddata ac opsiynau i helpu i lywio safbwynt Cymru.
Nid yw’r materion hyn yn syml. Mae’r grŵp ymgynghorol Ewropeaidd yn cyfarfod yr wythnos nesaf ac mae gan Gyngor Adnewyddu’r Economi gyfraniad pwerus i wneud. Ar draws y sectorau, rydym yn gwrando ac wrth gwrs, rydym yn gwrando yma yn y Siambr hon. Rydym yn croesawu cyfraniadau i’r ddadl am ein buddiannau yn y dyfodol. Maes o law, byddwn yn nodi manylion llawnach am ein dull o weithredu mewn perthynas â’r trafodaethau er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl i bobl Cymru. Yr hyn na ddylem ei wneud yn awr yw caniatáu i’r drafodaeth ganolbwyntio ar derminoleg yn hytrach na sylwedd. Mae hyn yn ymwneud â diogelu swyddi a thwf economaidd, ac rwy’n meddwl y dylem i gyd gytuno ar hynny.
Ein rheswm dros wrthwynebu’r cynnig yw ein bod o’r farn fod siarad am aelodaeth lawn o’r farchnad sengl yn drysu yn hytrach nag egluro’r hyn a olygwn, gan mai aelod-wladwriaethau’n unig sy’n aelodau diamheuol o’r farchnad sengl ac mae parhau aelodaeth o’r UE yn amlwg yn anghydnaws â chanlyniad y refferendwm. Yr hyn sydd gan wledydd eraill y tu allan i’r UE—fel Norwy, Gwlad yr Iâ, y Swistir ac eraill—yw cytundebau amrywiol ac wedi eu trafod â’r Undeb Ewropeaidd. Bwriad datganedig Llywodraeth y DU yw peidio â chymryd model sy’n bodoli eisoes oddi ar y silff, ond trafod cytundeb penodol sy’n adlewyrchu diddordebau amrywiol y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Dyna yw bwriad Llywodraeth y DU, a’n nod ni yw sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli’n llawn ac yn bresennol yn y trafodaethau hynny.
Felly, yn y ddadl hon, gadewch i ni ganolbwyntio ar sylwedd. Mae ein prif nod economaidd yn un syml, ac yn un rwyf wedi bod yn gwbl glir yn ei gylch ers 23 Mehefin. Rhaid i ni barhau i gael mynediad llawn a dilyffethair i nwyddau a gwasanaethau i farchnad sengl yr UE. Mae ‘dilyffethair’ yn golygu heb dariffau, cwotâu na rhwystrau technegol. Rwy’n derbyn bod Plaid Cymru wedi dweud droeon—er enghraifft, mae Steffan Lewis ei hun wedi ei ddweud—os mai aelodaeth lawn o’r farchnad sengl yw’r opsiwn gorau i Gymru, dyna beth y dylai Prif Weinidog Cymru ddadlau drosto. Rwy’n derbyn safbwynt Plaid Cymru, ond ni allaf gytuno ag ef am y rheswm syml nad yw bod yn aelod o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop yn golygu bod yn aelod o’r farchnad sengl yn awtomatig. Yn wir, gadewch i ni weld sut y maent yn disgrifio eu hunain ar eu gwefan eu hunain. Maent yn dweud mai cytundeb rhyngwladol yw Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop sy’n galluogi’r tair gwladwriaeth hon yng Nghymdeithas Masnach Rydd Ewrop i gymryd rhan yn y farchnad sengl, nid i fod yn aelodau o’r farchnad sengl. Mae bod yn aelodau o’r farchnad sengl yn golygu bod gennych hawliau pleidleisio, bod gennych hawl i wneud penderfyniadau—mae’n golygu bod yn aelod o’r UE. [Torri ar draws.] Gadewch i ni gael ychydig o ostyngeiddrwydd yn y Siambr hon. Fe golloch chi ar 23 Mehefin. Collwyd y bleidlais. Fe gollon ni i gyd—fe gollon ni gyda’n gilydd. Gadewch i ni dderbyn hynny. Y gwahaniaeth yw fy mod yn derbyn yr hyn a ddywedodd pobl Cymru. Nawr, rwy’n credu eich bod wedi gwneud penderfyniad dewr neu feiddgar yn eich cynnig i anwybyddu hynny.