Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 21 Medi 2016.
Dof at y pwynt ynglŷn â phobl, ond os caf eich atgoffa o’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog wrthych yn uniongyrchol mewn ymateb i gwestiwn ddoe, pan ofynnoch yr un cwestiwn iddo am symudiad pobl, fe ddywedodd:
‘Mynediad at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yw’r llinell goch; mae’r mater o symudiad rhydd pobl yn rhywbeth y bydd angen ei archwilio a’i drafod yn rhan o’r trafodaethau.’
Oherwydd mae’r mater sy’n rhaid i ni ei ddadansoddi yn gymhleth iawn. Yr hyn rwyf eisiau ei wneud yw sicrhau bod yr hyn a gawn o’r cytundeb er lles gorau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
Fel rwy’n dweud, rydym eisiau—[Torri ar draws.] Fel rwy’n dweud, mae’n amlwg iawn ein bod eisiau mynediad dilyffethair i’r farchnad sengl fel bod Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol i fuddsoddwyr ac allforwyr. Rydym hefyd eisiau setliad cadarn, yn amlwg, i wneud iawn am unrhyw wariant a gollwyd o’r Undeb Ewropeaidd, ac rydym eisiau sector ffermio diogel.
Mae economi Cymru mewn sefyllfa hynod o gryf. Rydym yn perfformio’n well na rhannau eraill o’r DU o ran gostwng lefelau diweithdra ac yn wir, gwelsom y gostyngiad cyflymaf yn y gyfradd ddiweithdra dros y 12 mis diwethaf. Ond rhaid i ni adeiladu ar ein llwyddiannau a datblygu blaenoriaethau economaidd sy’n cyflawni dros bawb yng Nghymru ym mhob cymuned yn ein gwlad, fel y dywedodd Lee Waters yn gywir.
Nawr, gan ddychwelyd at y pwynt ynglŷn â rhyddid pobl i symud a grybwyllodd yr Aelod o’r wrthblaid, arweinydd y blaid Geidwadol, yn gyntaf, gadewch i mi fod yn glir iawn ynglŷn â’n safbwynt fod dinasyddion yr UE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn aelodau a werthfawrogir o’n cymdeithas ac felly, yn sicr dylent allu aros yma ar ôl i’r DU adael yr UE. Mae ein heconomi, ein diwylliant, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymdeithas wedi elwa’n aruthrol o gyfraniad dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru. Gadewch i mi gondemnio’n gwbl glir unrhyw senoffobia neu hiliaeth a anelir at aelodau o’r gymuned o fewnfudwyr, boed yn ddinasyddion yr UE neu fel arall.
Roedd ymfudo yn bwnc arwyddocaol iawn yn nadl refferendwm yr UE, ac mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bwriad i gyflwyno mesurau rheoli pellach. Mae hyn ymhlith y materion y byddwn yn eu trafod â Llywodraeth y DU, gyda’n partneriaid datganoledig a’n rhanddeiliaid. Mae ymfudwyr yn rhan hanfodol o’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus ac rydym yn gweithio i ddeall yn fwy manwl beth yw ein hanghenion ar gyfer y dyfodol. Nid ydym am weld rheolaethau’n cael eu cyflwyno a fyddai’n amharu ar ddiogelwch swyddi neu greu swyddi ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru, ac ni fyddem yn dymuno gweld niwed yn cael ei achosi i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Gadewch i mi ddatgan yn glir iawn na fyddwn yn goddef unrhyw fath o hiliaeth neu ragfarn yng Nghymru. Aelodau, gallaf eich sicrhau, er y byddwn efallai yn gwrando ar bryderon ynglŷn â mewnfudo, ac yn ymateb iddynt, byddwn hefyd yn sefyll yn gadarn yn erbyn gwahaniaethu.