<p>Hyrwyddo’r Gymraeg</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:32, 27 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

O gofio’r ymrwymiad hwn i filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae cydnabyddiaeth gyffredinol bod dwyieithrwydd yn cael ei gyflawni orau trwy drwytho plant mewn ail iaith mor gynnar â phosibl, pa drefniadau y mae’r Llywodraeth wedi eu gwneud i gynnwys dysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau cyn-ysgol?