Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 27 Medi 2016.
Heddiw yw Diwrnod Twristiaeth y Byd, fel y byddwch yn gwybod rwy’n siŵr, Brif Weinidog, ac mae mor bwysig ein bod yn tynnu sylw at yr hyn sy'n cael ei gynnig ym mhob rhan o'n gwlad i ymwelwyr. Mae atyniadau yn fy etholaeth fy hun, Cwm Cynon, fel distyllfa wisgi Penderyn a digwyddiadau unigryw fel rasys ar y ffordd Nos Galan, sy'n coffáu Guto Nyth Brân. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cyfoeth o gyfleoedd tebyg ledled cymoedd y de yn cael eu hamlygu o fewn ei strategaeth dwristiaeth? Hefyd, gan mai thema Diwrnod Twristiaeth y Byd 2016 yw 'twristiaeth i bawb', sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid i sicrhau bod atyniadau yn hygyrch i bob ymwelydd posibl?