1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Medi 2016.
2. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer codi nifer y twristiaid sy'n ymweld â Chymru? OAQ(5)0156(FM)
Mae ein strategaeth dwristiaeth, 'Strategaeth ar gyfer Twristiaeth 2013—2020: Partneriaeth ar gyfer Twf', yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer datblygu a hyrwyddo cynnig twristiaeth Cymru gartref a thramor.
Heddiw yw Diwrnod Twristiaeth y Byd, fel y byddwch yn gwybod rwy’n siŵr, Brif Weinidog, ac mae mor bwysig ein bod yn tynnu sylw at yr hyn sy'n cael ei gynnig ym mhob rhan o'n gwlad i ymwelwyr. Mae atyniadau yn fy etholaeth fy hun, Cwm Cynon, fel distyllfa wisgi Penderyn a digwyddiadau unigryw fel rasys ar y ffordd Nos Galan, sy'n coffáu Guto Nyth Brân. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cyfoeth o gyfleoedd tebyg ledled cymoedd y de yn cael eu hamlygu o fewn ei strategaeth dwristiaeth? Hefyd, gan mai thema Diwrnod Twristiaeth y Byd 2016 yw 'twristiaeth i bawb', sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid i sicrhau bod atyniadau yn hygyrch i bob ymwelydd posibl?
Mae gwefan Croeso Cymru yn rhestru amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ledled Cymru, gan gynnwys llawer yn y Cymoedd, ac mae ras ffordd flynyddol Nos Galan yn Aberpennar wedi ei rhestru ym mhrif lyfryn twristiaeth blynyddol Croeso Cymru, 'Dyma Gymru 2016’.
Gofynnodd hefyd, wrth gwrs, am hygyrchedd. Mae gwefan Croeso Cymru yn cynnwys hidlydd ar gyfer darparu ymwelwyr anabl i alluogi ymwelwyr i chwilio am atyniadau sy'n darparu ar gyfer pobl ag anableddau, ac mae’r wybodaeth honno yn seiliedig ar y manylion a ddarperir gan yr atyniadau eu hunain, a gall ymwelwyr gadarnhau yr union gyfleusterau sydd ar gael ar adeg gwneud ymholiad neu archebu.
Rydych chi wedi bod yn Brif Weinidog am saith mlynedd, ac rydych felly’n mynd heibio gorsaf drenau ddadfeiliedig Bae Caerdydd bob dydd. Rydych hefyd yn mynd heibio'r ffasâd ysblennydd ond dadfeiliol adeilad Cory’s gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru. Onid ydych chi’n sylweddoli faint o gywilydd y mae’n ei godi ar Gymru mai’r adeiladau hynny yw'r pethau cyntaf y mae llawer o dwristiaid yn eu gweld wrth ymweld â Bae Caerdydd? Ni fyddai Llywodraeth San Steffan yn caniatáu pethau hyll o'r fath o fewn tafliad carreg yn llythrennol i Senedd y DU. Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud ynglŷn â’r hagrwch hwn ym Mae Caerdydd?
Wn i ddim beth oedd ef yn ei wneud pan oedd yn ddirprwy arweinydd Caerdydd, oherwydd, wrth gwrs, mae gan y cyngor gyfrifoldeb, nid ar gyfer yr orsaf reilffordd, rwy’n derbyn, ond yn sicr dros y Sgwâr Canolog, sy'n cael ei ddatblygu erbyn hyn, wrth gwrs, gan gyngor dan arweiniad Llafur yng Nghaerdydd. Felly, mae’r orsaf fysiau newydd yn cael ei hadeiladu ac mae gan y ddinas borth priodol. Mae'n codi pwynt pwysig am yr orsaf reilffordd ganolog. Rwyf yn sicr wedi cyfarfod â Network Rail. Mae ganddynt gynlluniau ar gyfer yr orsaf, ac rydym wedi bod yn eu hannog i ddatblygu’r cynlluniau hynny cyn gynted ag y bo modd, gan gadw cymeriad yr orsaf, wrth gwrs, gan, ar yr un pryd, foderneiddio’r cyfleusterau sydd ar gael.
Brif Weinidog, mae Visit Scotland yn gwario dros £50 miliwn ar hyrwyddo’r Alban. Yng Nghymru, Croeso Cymru, gwariwyd £8.3 miliwn ar Gymru yn ei chyfanrwydd. Ond nid oes unrhyw ran o’r gwariant hwnnw yn cael ei wario'n benodol ar hyrwyddo’r canolbarth fel cyrchfan penodol i ymweld ag ef. Mae gennym y llwybr arfordirol, mae gennym drefi marchnad hardd yn edrych dros olygfeydd gwych yng nghanolbarth Cymru. A gaf i ofyn, Brif Weinidog: a yw'n ddigon da nad ydym ni’n hyrwyddo’r canolbarth fel cyrchfan penodol?
Mae e'n gwneud achos cryf dros yr ardal y mae'n ei chynrychioli, ac rwyf yn gwerthfawrogi hynny. Rydym yn ceisio, wrth gwrs, hyrwyddo pob rhan o Gymru, gan gynnwys ardaloedd nad ydynt yn draddodiadol wedi eu hystyried fel ardaloedd sydd yn draddodiadol wedi denu twristiaid. Gallaf ddweud bod gwariant gan ymwelwyr sy'n aros yng Nghymru yn 2015 dros £2.3 biliwn, sy’n sylweddol uwch na'r targed a osodwyd gennym. Rydym yn gwybod bod twristiaeth yn gyflogwr pwysig yng Nghymru hefyd, a byddwn yn parhau i geisio cynyddu nifer yr ymwelwyr, yn ystod y dydd a thros nos, i bob rhan o Gymru, fel y gall y rhai nad ydynt yn ddigon ffodus i fod yn byw yma fwynhau'r hyn sydd gennym i'w gynnig.
Brif Weinidog, rwyf yn croesawu'r haf llwyddiannus ar gyfer twristiaeth yng Nghymru o ran ymweliadau dydd a hefyd y buddsoddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn fy etholaeth i, gan gynnwys gwelliannau i gastell y Fflint, a’r fenter Let’s Sk8 gyffrous, sy'n dod i Theatr Clwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. A allwch chi ein sicrhau y bydd y buddsoddiad hwn yn parhau i gael ei ddatblygu fel y gallwn barhau i dyfu ein heconomi ymwelwyr hollbwysig yn y gogledd?
Gallaf, wrth gwrs. Mewn ymateb i'r pwynt a wneuthum yn gynharach, rydym eisiau annog twristiaeth i ddod i bob rhan o Gymru, nid dim ond yr ardaloedd sydd yn draddodiadol wedi bod yr ardaloedd sydd wedi denu’r rhan fwyaf o dwristiaid. A byddwn yn parhau i geisio darparu buddsoddiad i wella’r cyfleusterau hynny ar gyfer ymwelwyr yn y blynyddoedd i ddod.
Brif Weinidog, mae llawer o fusnesau yn y gogledd yn ddibynnol ar dwristiaeth ac wedi bod dan anfantais ers talwm yn y gogledd, yn rhannol oherwydd y methiant i hysbysebu atyniadau lleol ar hyd yr A55 yn ddigonol. Mae'n broblem barhaus a brofir gan atyniadau—ymwelwyr lleol yn mynd ar yr A55, stopio yn eu cyrchfan, heb unrhyw syniad o'r gweithgareddau amrywiol oddi ar yr A55 nad oes arwyddion i ddangos ble y maent. Mae'r cyfle i ddefnyddio'r A55 fel ffordd o gynhyrchu incwm i fusnesau lleol yn cael ei golli. A wnewch chi egluro i ni os gwelwch yn dda beth yr ydych chi’n mynd i’w wneud i fynd i'r afael â'r broblem hon?
Wrth gwrs, gan weithio gydag awdurdodau lleol, rydym yn gallu ymchwilio, er enghraifft, i ddarparu mwy o arwyddion brown. Rydym yn gweld y rheini yn cael eu codi ledled Cymru. Mae'n iawn i ddweud ein bod yn gweithio ar sicrhau ein bod yn denu mwy o ymwelwyr sy'n teithio ar hyd yr A55 i Iwerddon, ac mae llawer ohonynt wedi dweud wrthyf yn y gorffennol, 'Wel, rydym wedi teithio i Iwerddon ar y ffordd honno ond heb stopio ar y ffordd a dweud y gwir.' Gallaf ddweud, er hynny, pan ddaw i dwristiaid rhyngwladol, fod y ffigurau yn parhau i gynyddu, ac, iddyn nhw, wrth gwrs, bydd llawer ohonynt yn ymweld ag Iwerddon a theithio drwy ogledd Cymru i gyrraedd yno. Ond, gan weithio gyda'r awdurdodau lleol, rydym yn credu y gallwn barhau i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr yn ddigidol ac o ran arwyddbyst.