Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 27 Medi 2016.
Gallaf, wrth gwrs. Mewn ymateb i'r pwynt a wneuthum yn gynharach, rydym eisiau annog twristiaeth i ddod i bob rhan o Gymru, nid dim ond yr ardaloedd sydd yn draddodiadol wedi bod yr ardaloedd sydd wedi denu’r rhan fwyaf o dwristiaid. A byddwn yn parhau i geisio darparu buddsoddiad i wella’r cyfleusterau hynny ar gyfer ymwelwyr yn y blynyddoedd i ddod.