Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 27 Medi 2016.
Bydd hyn yn cael ei archwilio, wrth gwrs, pan fydd y gyllideb yn cael ei chreu, ac, yn rhan o'r addewidion a wnaethom i bobl Cymru yn ôl ym mis Mai, rydym yn bwriadu parhau â'r sefyllfa lle mae anghydraddoldebau iechyd yn lleihau. Yr hyn yr ydym wedi ei weld, wrth gwrs, gyda'r dreth ystafell wely a gyda thoriadau i fudd-daliadau lles yw bod anghydraddoldeb wedi cynyddu yng Nghymru, a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i frwydro yn erbyn hynny. Rwy'n ddiolchgar iddo am grybwyll cynhadledd fy mhlaid fy hun. Os yw'n dymuno, wrth gwrs, chwarae mwy o ran yn hynny, yna gall wneud cais i ymuno, er na allaf warantu y bydd ei gais yn cael ei dderbyn.