Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 27 Medi 2016.
Wel, mae'n sôn am y materion cyllidebol. Unwaith eto, byddant yn rhan o'r gyllideb pan gaiff ei chyhoeddi er mwyn i’r holl Aelodau ei gweld. Mae gennym ein targed o 20,000. Bydd y Gweinidog yn egluro i'r Cynulliad sut y caiff y targed hwnnw ei gyflawni. Rydym wedi cyflawni’r targedau hynny yn y gorffennol. Rydym yn sefyll ar ein hanes. Mae'n sôn am drioleg. Ail ran y drioleg, wrth gwrs, oedd trechu a lleihau aelodau’r Blaid Geidwadol yn yr etholiadau ym mis Mai.