Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 27 Medi 2016.
Mae'n gwbl hanfodol bod yr ardal yn cael gwell triniaeth; dyna pam yr ydym yn buddsoddi mewn cyfleusterau iechyd. Mae angen iddo fynd i siarad â phobl, er enghraifft, ar Lannau Dyfrdwy, lle yr agorwyd cyfleuster iechyd newydd sbon, neu bobl, yn wir, ym Mhort Talbot, ym Maglan, gyda'r ysbyty Castell-nedd Port Talbot— y ganolfan iechyd newydd sbon yn y fan honno—neu Lanfair-ym-Muallt, gyda'r ganolfan iechyd newydd sbon yno. Rydym yn darparu cyfleusterau y mae pobl eu hangen ar gyfer y dyfodol, ac yn bwysig, y cyfleusterau sy’n llunio’r dyfodol cyn belled ag y mae gwasanaeth iechyd yr unfed ganrif ar hugain yn y cwestiwn, gan sicrhau bod llai a llai o bobl yn gorfod aros yn yr ysbyty, yn hytrach na gwneud pethau yn yr un hen ffordd, lle mae pobl yn aros yn yr ysbyty pan nad oes angen iddynt wneud hynny.