Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 27 Medi 2016.
O ran gwasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed, rydym wedi buddsoddi’n drwm— £6.6 miliwn i'r gwasanaeth. Roedd y galw yn fwy na'r cyflenwad, mae cymaint â hynny’n wir, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym wedi cyfateb hynny â'r buddsoddiad ychwanegol sydd wedi ei wneud. Mae'n golygu, wrth gwrs, bod y niferoedd sy'n aros a'r amseroedd y mae pobl ifanc yn aros wedi mynd i lawr.