Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 27 Medi 2016.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn hwn, oherwydd gan mai nhw yw arwyr di-glod y gwasanaeth iechyd mewn sawl ffordd. Maent yn gweithio yn y gymuned ac mewn gofal sylfaenol, ac, wrth gwrs, maent yn darparu llawer o ofal ataliol, sydd yn anodd ei fesur ynddo’i hun, oherwydd sut mae mesur rhywbeth sy'n atal rhywbeth a fyddai wedi digwydd yn y dyfodol? Wrth gwrs, maent yn helpu i ymdrin ag osgoi derbyn cleifion, fel nad oes yn rhaid i fwy o bobl fynd i'r ysbyty, ond eu bod yn cael y gefnogaeth i aros gartref.