Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 27 Medi 2016.
Gwnaf, ond yn gyntaf oll byddem yn disgwyl i fyrddau iechyd lleol weld beth sy'n gweithio mewn byrddau iechyd eraill ac yna defnyddio’r arfer gorau hwnnw, a chymhwyso’r arfer gorau hwnnw, yn eu hardaloedd eu hunain. Pan fo tystiolaeth fod yr arfer hwnnw’n gweithio'n dda, yna yn amlwg byddem yn awyddus iddynt edrych arno i weld os yw'n addas yn eu hardal eu hunain ac, os felly, gweithredu hynny. Pan ddaw i DPP, mae llawer o weithwyr proffesiynol, wrth gwrs, yn cael eu llywodraethu gan gyrff proffesiynol nad ydynt, ohonynt eu hunain, wedi eu datganoli, os caf ei roi felly, ac mae ganddynt eu gofynion eu hunain ar gyfer DPP. Ond os yw hynny’n broblem, yna mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y gallai’r Gweinidog efallai edrych arno, er mwyn gweld sut y gallai sefyllfa’r cyfarwyddwyr yr ydych wedi cyfeirio ati gael ei chryfhau yn y dyfodol.