<p>Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 27 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, os edrychwch chi ar y ffigurau, os edrychwn ni ar y perfformiad 62 diwrnod ar gyfer canser, mae mwy o bobl yn dechrau ar eu triniaeth o fewn targed amser y llwybr 62 diwrnod ar gyfer canser. Mae'r un peth yn wir am y llwybr 31 diwrnod—80.4 y cant yn uwch. Os edrychwn ar arosiadau 12 awr mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y llynedd, mae’r ffigurau hynny wedi gostwng 63 y cant ers mis Mawrth eleni. Felly, rydym yn gweld gwahaniaethau mawr o ran nid yn unig diagnosteg, ond o ran triniaeth canser, ac yn wir o ran perfformiad adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.