Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 27 Medi 2016.
Brif Weinidog, y rheswm y mae PABM yn mynd i dderbyn ymyrraeth wedi'i thargedu yw oherwydd perfformiad gwael mewn gofal canser heb ei drefnu. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 83 y cant o gleifion sydd wedi cael diagnosis trwy'r llwybr amheuaeth o ganser brys sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod. Rydym i gyd yn gwybod bod triniaeth ac ymyrraeth brydlon yn lleihau'r risg y bydd y canser yn lledaenu ac yn cynyddu'r siawns o oroesi. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i PABM er mwyn eu galluogi i ddileu oedi wrth roi triniaeth ac i wella'r cyfraddau goroesi canser yn fy rhanbarth i?