Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 27 Medi 2016.
Na, dim o gwbl, wrth gofio’r ffaith, yn ôl yr adroddiad ei hun, fod tua 90 y cant o wasanaethau yn gweithio’n iawn. Mae yna rai rhannau sydd eisiau gwella—mae hynny’n wir—a dyna pam rydym yn croesawu adroddiadau fel hyn er mwyn inni wybod lle mae pethau’n gorfod cael eu gwella. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, yn ôl adroddiad Nuffield, mai bach iawn o wahaniaeth sydd rhwng y gwasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y driniaeth orau ar gael, a lle mae pethau’n dda, ond lle gellir gwell, fod pethau’n gwella.