Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 27 Medi 2016.
Sut y gallaf i wrthod cynnig o'r fath? Mewn egwyddor, hoffwn dderbyn hynny, oherwydd mae gennyf ddiddordeb yn y gwaith y mae'r Aelod wedi’i ddisgrifio. Gallaf weld yr angerdd y mae hi’n ei ddangos wrth argymell y gwaith y mae hi wedi eu gweld yn ei wneud. Hoffwn ei weld drosof fy hun.