Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am y cwestiwn yna. Gwrandewais yn ofalus iawn. Un peth na wnaethoch gyfeirio ato, wrth gwrs, yw'r arloesedd mewn gofal meddyg teulu, yn enwedig yn y gogledd, o ran y gwaith sy'n mynd ymlaen ym Mhrestatyn, gydag ymagwedd tîm amlddisgyblaeth i ofal cleifion. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i werthuso pa un a yw'r model yn fodel llwyddiannus y gellir ei gymhwyso mewn mannau eraill ledled Cymru er mwyn lleddfu'r pwysau ar niferoedd y meddygon teulu yn y wlad?