1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Medi 2016.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brinder meddygon yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0164(FM)[W]
Ynglŷn â’r niferoedd, nid oes prinder—mae mwy o ddoctoriaid nawr nag oedd yna yn 2005.
Peidiwch â dweud nad yw hynny’n wir. A gaf i roi’r ffigurau, felly, er mwyn bod y wybodaeth yn iawn? Yn 2005, roedd 1,849 o feddygon teulu yng Nghymru; yn awr, mae 1,997. Ynglŷn ag ardal Betsi Cadwaladr, roedd 422 yn 2005 a 437 yn 2015. Mae’r un peth yn wir ynglŷn â’r cynnydd sylweddol mewn doctoriaid mewn ysbytai. Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, mae yna ymgyrch sydd yn mynd i gael ei lansio ar ddiwedd mis nesaf er mwyn denu mwy o ddoctoriaid i weithio yng Nghymru.
Nid wyf yn siŵr os ydw i eisiau diolch ichi am yr ateb, achos mae yna ddarlun gwahanol iawn i’w weld os ydych yn cyfri nifer y doctoriaid sy’n cyfateb i ddoctoriaid llawn amser. Ond, y cwestiwn rwyf am ofyn ichi yw: un o’r problemau gyda recriwtio meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig yw’r diffyg cyfleusterau iechyd ehangach lleol sydd ar gael iddyn nhw. Nid yw meddygon teulu eisiau methu â gwneud eu gwaith oherwydd eu bod nhw’n methu â chael mynediad at welyau i’w cleifion, i beiriannau pelydr-x, i wasanaethau diagnostig ac yn y blaen yn lleol. A gaf i ofyn, felly, a fyddech yn barod i gomisiynu ymchwil gyda meddygon teulu gwledig, yn cynnwys, efallai, rhai sydd wedi rhoi’r gorau iddi, i adnabod eu pryderon ynglŷn â mynediad at adnoddau a chyfleusterau lleol ac i weithredu ar y canfyddiadau?
Byddwn i’n dadlau ein bod ni wedi gwneud hynny’n barod, sef drwy grŵp ‘collaborative’ canolbarth Cymru, sydd wedi gweithio’n dda dros ben. Byddwn i’n erfyn i’r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn fanna fod yn waith sydd yn gallu cael ei drosglwyddo i rannau eraill o Gymru. So, mae’r gwaith hwnnw wedi dechrau yn barod.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am y cwestiwn yna. Gwrandewais yn ofalus iawn. Un peth na wnaethoch gyfeirio ato, wrth gwrs, yw'r arloesedd mewn gofal meddyg teulu, yn enwedig yn y gogledd, o ran y gwaith sy'n mynd ymlaen ym Mhrestatyn, gydag ymagwedd tîm amlddisgyblaeth i ofal cleifion. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud i werthuso pa un a yw'r model yn fodel llwyddiannus y gellir ei gymhwyso mewn mannau eraill ledled Cymru er mwyn lleddfu'r pwysau ar niferoedd y meddygon teulu yn y wlad?
Bydd ef yn gwybod—mae wedi ei weld ei hun—sut mae'n gweithio. Y gwir amdani yw ein bod wedi gweld practisau ym Mhrestatyn—dau ohonynt, os cofiaf yn iawn—yn cau. Ond, cymerodd y bwrdd iechyd lleol y cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol, ac mae'r gwasanaethau yn well ac yn sicr yn ehangach na'r hyn a oedd ar gael o'r blaen. Felly, mae hyn yn dangos nad y model contractwr yw'r model gorau bob amser ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol. I rai, dyna’r hyn y maent ei eisiau; i fwy o feddygon teulu, yn gynyddol, mae'n ymddangos i mi bod y model contractwr yn llai deniadol iddynt. Mae’r hyn yr ydym wedi ei weld hyd yn hyn ym Mhrestatyn wedi bod yn wych o ran lled a dyfnder y gwasanaeth a ddarparwyd ac, wrth gwrs, bydd y bwrdd iechyd lleol yn parhau i werthuso’r hyn sy'n cael ei wneud yno er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn fodel y gellir ei fabwysiadu, o bosibl, o amgylch Cymru.