<p>Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:15, 27 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Yn 2014, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad ar yr ymchwiliad i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Canfu'r pwyllgor y bu cynnydd o 100 y cant mewn atgyfeiriadau ar gyfer y gwasanaethau hyn, ond bod y ddarpariaeth yn annigonol i ddiwallu’r cynnydd hwn. Mewn cyfarfodydd diweddar gyda'r pwyllgor, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru mai dim ond unwaith y mae’r grŵp Law yn Llaw Plant a Phobl Ifanc, sy'n ymrwymedig i ddiwygio gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, wedi cyfarfod ers i’r grŵp gychwyn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £7 miliwn o gyllid ychwanegol i'r gwasanaethau, nid oes ymrwymiad eglur yn y rhaglen lywodraethu bod y llywodraeth am ddiwygio CAMHS. Ni fydd taflu arian at y broblem yn golygu y bydd yn diflannu. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i ddiwygio’r gwasanaethau hyn ac esbonio sut y bydd yn gwneud hynny?