<p>Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:16, 27 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn anghytuno â'r Aelod. Roedd angen chwistrelliad o arian; mae hynny wedi digwydd. Rydym yn gweld y manteision. Mae llai o blant yn derbyn gofal y tu allan i'r ardal. Mae'r amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau CAMHS arbenigol wedi gostwng 21 y cant. Ac, wrth gwrs, mae gwasanaethau newydd ar gyfer anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth yn cael eu sefydlu ar draws Cymru. Mae mwy i'w wneud, wrth gwrs, ond rydym yn gweld gwelliannau gwirioneddol i blant sydd â phroblemau iechyd meddwl.