Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 27 Medi 2016.
Arweinydd y tŷ, y bore yma, es i i angladd Ann Wilkinson o Frynbuga. Bydd llawer o Aelodau'r pedwerydd Cynulliad yn cofio Ann a’i gwaith a’i hymroddiad diflino i achos cleifion canser, dioddefwyr canser, ledled Cymru. Yn drist iawn, bu farw bythefnos yn ôl, ond mae’n gadael ar ei hôl etifeddiaeth y gall hi a'i theulu fod yn falch ohoni. Bydd aelodau'r Cynulliad diwethaf yn ei chofio yn eistedd yn yr oriel uchod drwy nifer o ddadleuon, a chyflwynodd ddeiseb i'r Cynulliad hwn yn galw am gronfa cyffuriau canser a gwell mynediad at gyffuriau. A ydych chi’n cytuno â mi, arweinydd y tŷ, mai’r deyrnged orau y gallai'r Siambr hon a'r Cynulliad hwn ei thalu i Ann Wilkinson a dioddefwyr canser eraill ledled Cymru fyddai datblygu cronfa triniaeth canser gyflawn? Sylwaf fod datganiad nes ymlaen ar ddatblygu cronfa driniaeth. A gawn ni sicrhau bod hynny yn cynnwys mynediad at y cyffuriau canser hollbwysig ar y cyfle cyntaf er cof am Ann, ond hefyd ar gyfer dioddefwyr triniaeth canser eraill ledled Cymru, nad ydynt yn dymuno treulio misoedd ac wythnosau olaf eu bywydau yn brwydro i gael yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn hawl dynol sylfaenol iddyn nhw?