Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 27 Medi 2016.
Wrth gwrs, Nick Ramsay, mae hwn yn bwynt pwysig iawn yr ydych wedi ei gyflwyno i ni heddiw o ran cydnabod a chyfleu ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Ann Wilkinson. Dyna'r pwynt pwysig o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw, yr hyn yr ydych wedi’i gyflwyno i ni heddiw, a’r ffaith eich bod wedi mynd i angladd Ann Wilkinson. Wrth gwrs, rydym yn dymuno, fel Cynulliad cyfan, rwy’n siŵr, ei chydnabod hi a’i dewrder, a'r ffaith ei bod wedi gwneud safiad ac wedi colli ei bywyd yn anffodus. Ond rwy'n credu y bydd y peth pwysicaf i ddod o hynny yn cael ei egluro mewn datganiad gyda hyn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, gan y bydd yn cyhoeddi cronfa triniaeth newydd. Rwy'n siwr y byddai'n croesawu hynny. Mae'n bwysig y bydd yn gronfa triniaeth newydd a fydd yn sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael mynediad cyflym at driniaethau newydd ac arloesol ar gyfer afiechydon sy'n cyfyngu ar fywyd ac sy'n bygwth bywyd. Ac, wrth gwrs, rwy'n credu y bydd hynny yn bwynt pwysig i'r Aelod ac y caiff ei gydnabod heddiw.