Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad terfynol o’r adolygiad o addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Ian Diamond. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Athro Diamond ac i holl aelodau'r panel ar draws y pleidiau gwleidyddol, y sector a'r diwydiant am yr amser a'r ymdrech y maent wedi’i neilltuo ar gyfer yr adolygiad ers iddo ddechrau ym mis Ebrill 2014.
Mae'r panel wedi ystyried llawer iawn o dystiolaeth yn rhan o’i waith. Adlewyrchir hyn yn amrywiaeth a chymhlethdod y materion y mae'r panel wedi’u cyflwyno yn ei adroddiad terfynol ac yn lefel manylder ei argymhellion.
Cafodd gwaith y panel ei lywio gan yr egwyddor Robbins hirsefydlog, sef y dylai mynediad at addysg uwch fod yn seiliedig ar allu yn unig, ac nid ar allu pobl i’w fforddio. Gan lynu wrth yr egwyddor hon, argymhelliad cyffredinol yr adroddiad yw y dylai’r cyllid grant ganolbwyntio mwy ar gymorth cynnal a chadw ar draws lefelau a dulliau o astudio, gan oresgyn y gwir heriau ariannol sy'n gysylltiedig â chyfnod o astudio addysg uwch. Mae'n cynnig y dylid gwella cymorth cynhaliaeth ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru, ac y dylai’r lefel uchaf o gymorth grant gael ei chyfeirio tuag at y rhai sydd fwyaf anghenus, ond y dylai grant cynhaliaeth cyffredinol o £1,000 nad yw’n seiliedig ar brawf modd fod ar gael i’r holl fyfyrwyr. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnig gweithredu dull unigryw ac arloesol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig, a fydd yn annog dull hyblyg tuag at addysg uwch. Mae'r adroddiad yn cydnabod, o ystyried cyd-destun y cyni yn y DU, na ellir cyflawni’r gwelliannau hyn a argymhellir ac eithrio drwy ryddhau cyllid a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddarparu grantiau ffioedd dysgu i israddedigion llawn amser.
Cymeradwywyd yr egwyddorion a gynhwysir yn yr adroddiad gennyf i a’m cydweithwyr yn y Cabinet. Mae'r cynigion hyn yn cynrychioli newid trawiadol o ran sut yr ydym ni’n cefnogi'r rhai sy’n dymuno mynd i addysg uwch, yn ogystal ag amlinellu system cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch sy’n decach ac yn gynaliadwy. Byddai'r cynigion yn golygu mai Cymru fyddai’r unig wlad yn y DU i weithredu system sy'n gyson, blaengar a theg o ran ei chefnogaeth i fyfyrwyr israddedig llawn amser, myfyrwyr israddedig rhan amser a myfyrwyr ôl-raddedig.
Mae’r ofn o fethu â bodloni costau byw o ddydd i ddydd yn atal llawer o bobl—nid y ffaith bod disgwyl iddynt ad-dalu benthyciadau ar ôl iddynt gychwyn gweithio. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y consensws cryf ymysg myfyrwyr, cyrff sy’n cynrychioli myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes ehangu cyfranogiad, fod y cymorth presennol ar gyfer cynhaliaeth yn annigonol a bod hyn yn fwy o fater i fyfyrwyr na lefel y ffioedd a chymorth ffioedd. Mae'r system hon yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw yn uniongyrchol, ond bydd hefyd yn golygu gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Ar ôl cymeradwyo'r egwyddorion sylfaenol a geir yn yr adroddiad, nawr mae angen i mi ystyried goblygiadau ymarferol gweithredu ei argymhellion. Bydd Llywodraeth Cymru felly yn trafod ein dull gweithredu â Thrysorlys Ei Mawrhydi a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr cyn cwblhau ein hymateb ffurfiol. Gallaf gadarnhau y bydd yr ymateb yn ategu’r egwyddorion allweddol canlynol: bydd cadw at yr egwyddor o gyffredinoliaeth o fewn system flaengar yn sicrhau dull teg a chyson ar draws lefelau a dulliau astudio, am y tro cyntaf yn unrhyw le yn y DU; bydd yn sicrhau buddsoddiad ar y cyd rhwng y Llywodraeth a'r rhai hynny sy'n cael budd uniongyrchol, gan wella pa mor hawdd ydyw i astudio a lleihau'r rhwystrau, megis costau byw—ac y dylai cymorth i fyfyrwyr fod ar gael i fyfyrwyr Cymraeg unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Yn fy nghytundeb gyda'r Prif Weinidog, gwnaethom gydnabod mai addysg o safon uchel sy’n sbarduno symudedd cymdeithasol, ffyniant cenedlaethol a democratiaeth weithredol. Er mwyn galluogi hyn, mae Cymru angen setliad ariannu addysg uwch sy’n gynaliadwy ac yn flaengar ac sy'n cefnogi myfyrwyr pan fyddant ei angen fwyaf ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu'n rhyngwladol. Gydweithwyr, dechreuais drwy gyfeirio at egwyddor enwog yr adroddiad Robbins. Caiff hyn ei ddiystyru’n aml, wrth nodi amcanion system addysg uwch, fod yr adroddiad hefyd yn dweud, ac rwy'n dyfynnu,
‘The system as a whole must be judged deficient unless it provides adequately for all.’
Mae Syr Ian a'i banel wedi cyflwyno adroddiad heddiw sy'n argymell newid sylfaenol fel y gall Cymru ddatblygu system ariannu addysg uwch a chyllid myfyrwyr sydd wir yn darparu ar gyfer pawb. Diolch.