3. 3. Datganiad: Adolygiad Diamond o Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 27 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:34, 27 Medi 2016

A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd, am eich datganiad? Rwyf innau hefyd am ategu’r diolch rydych chi wedi estyn i’r Athro Diamond ac aelodau’r panel, ac, yn wir, y sector ehangach a phawb sydd wedi cyfrannu i’r broses faith hon, ond proses, rwy’n siŵr, bydd yn werthfawr wrth i ni symud ymlaen at greu cyfundrefn well. Yn fy marn i, mae hwn yn cynnig model mwy cynaliadwy i ni. Rydych wedi dweud yn eich datganiad eich bod chi’n cefnogi’r egwyddorion sydd yn gynsail i hwn. Nid wyf yn siŵr os dywedoch chi yn blwmp ac yn blaen eich bod chi hefyd yn cytuno bod hwn yn ein symud ni i fodel mwy cynaliadwy na’r model presennol. Rwy’n siŵr y byddech chi’n licio gwneud hynny’n glir wrth ymateb, os y gwnewch chi.

Mae’r Athro Diamond, wrth gwrs, wedi ei gwneud hi’n glir yn gyson yn y drafodaeth ynglŷn â’r argymhellion yma bod yr hyn sy’n cael ei argymell yn becyn cynhwysfawr, yn becyn cyfansawdd, ac na ddylem ni fod yn dewis a dethol gwahanol elfennau wrth fynd ati i weithredu. Wrth edrych ar y cyfan, felly, a ydych chi’n cydnabod mai pecyn cynhwysfawr yw hwn? Mi wnaethpwyd y gymhariaeth y bore yma, mewn cyfarfod gydag Aelodau Cynulliad, gan yr Athro Diamond, nad lein ddillad yw hon, lle y gallwch chi dynnu ambell i ddilledyn lawr, a gadael y lleill i fyny—bod yn rhaid edrych arno fe fel un darn o waith. Ac felly, tra’ch bod chi’n sôn am ystyried yr argymhellion yn unigol, edrych ar y pecyn cyfan y dylech chi fod yn ei wneud, a bod yn barod i wneud hynny.

Yn yr un modd hefyd, wrth gwrs, mae yna gwestiwn ynglŷn â’r ariannu. A ydych chi yn derbyn bod y gyllideb bresennol sydd wedi ei chlustnodi i gefnogi myfyrwyr yn aros, ac mai gweithio o fewn y gyllideb honno y byddwch chi fel Llywodraeth, neu a ydych chi’n mynd i fod yn chwilio am arbedion? Oherwydd mae hynny, yn amlwg, yn mynd i gael cryn ddylanwad ar faint o’r pecyn cyfan, os liciwch chi, y byddwch chi fel Llywodraeth yn ei weithredu. Rwy’n meddwl bod yn rhaid ichi ei gwneud hi’n gwbl glir ynglŷn ag ar ba gynsail rydych chi’n gweithredu, o safbwynt cyllidebol.

Rwy’n sicr yn croesawu’r pwyslais ar gefnogi astudio rhan-amser ac ôl-radd, a, hefyd, ar hyrwyddo’r cysylltiadau a’r ‘progression’ yna rhwng addysg bellach ac addysg uwch. Fe fyddwn i’n licio gofyn i chi, efallai, ddweud ychydig ynglŷn â sut rydych chi’n teimlo y mae’r argymhellion yma yn mynd i fod o gymorth i’r Llywodraeth i hyrwyddo y cydraddoldeb rydym ni i gyd eisiau ei weld rhwng addysg alwedigaethol ac addysg academaidd.

Mae angen cyfundrefn sy’n drosglwyddadwy hefyd—hynny yw, ble bynnag rydych chi yn astudio, bod y gefnogaeth yn gallu eich dilyn chi. Mae Diamond yn eithaf clir, boed yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig, neu, yn yr hinsawdd newydd sydd ohoni, wrth gwrs, o fewn Ewrop. Nawr, mi roedd Plaid Cymru, yn ein maniffesto ni, am fynd gam ymhellach, a sicrhau bod yna gefnogaeth i chi os oeddech chi’n astudio y tu allan i Ewrop hefyd. Rwy’n deall bod hynny yn ddymuniad gan Diamond hefyd. Efallai y byddech chi’n gallu mynegi a ydy hynny, mewn egwyddor, yn sicr, yn rhywbeth y byddech chi’n awyddus i’w hyrwyddo, os yn bosib.

Mae yna argymhelliad clir arall, wrth gwrs, yn yr adroddiad, sef cydnabyddiaeth o’r angen i gymell myfyrwyr naill i gadw eu sgiliau yng Nghymru ar ôl graddio, neu i ddod â’r sgiliau yna yn ôl i Gymru ar ôl graddio, a gwneud hynny, fel y mae’r Athro Diamond yn ei ddweud, er budd Cymru. Yr awgrym yw bod modd edrych ar wneud hynny drwy, efallai, ddileu rhan o’u dyled. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn gydnaws iawn â’r hyn roedd Plaid Cymru wedi bod yn ei gyflwyno fel elfen ganolog o’n polisi ni. Felly, yn amlwg, byddwn i’n croesawu’r gydnabyddiaeth yna, neu’r cydsyniad yna, gan yr Athro Diamond i’r hyn rydym ni wedi bod yn ei ddweud.

Mi ddywedodd hefyd y bore yma, wrth drafod yr argymhellion yma gydag Aelodau Cynulliad, bod angen i’r Llywodraeth wneud hynny ar fyrder—‘with urgency’ oedd y term a ddefnyddiodd e—oherwydd mae’r manteision i’r economi yma yng Nghymru, ac i gymdeithas ehangach, yn gwbl amlwg i bawb. Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod chi yn llawn fwriadu gweithredu ar yr argymhelliad yna, ac yn bwriadu gwneud hynny yn fuan, neu ar fyrder?

Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad mewn manylder. Ac, wrth gwrs, rydym ni fel plaid yn fwy na pharod i chwarae’n rhan ni er mwyn gweithredu beth sydd yn yr adroddiad, cyhyd ag y bod e, wrth gwrs, yn ein symud ni tuag at sicrhau cyfundrefn sydd yn fwy cynaliadwy, sy’n cau’r bwlch ariannu hefyd, ar draws addysg ôl-16, a hefyd sydd yn gwneud mwy i ddenu talent yn ôl i Gymru, er mwyn creu sail gryfach i dwf economaidd yng Nghymru, ac yn gymdeithasol hefyd, sef wrth gwrs, rwy’n siŵr, beth rydym ni i gyd eisiau ei weld.