Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 27 Medi 2016.
Diolch yn fawr i Mr Reckless am ei gyfres o gwestiynau. Gwn eich bod yn gymharol newydd i Gymru, ond ceir traddodiad anrhydeddus o ran polisi cyhoeddus yng Nghymru sef yr egwyddor o gyffredinoliaeth mewn system flaengar. Mae'n un sydd wedi bod yn destun consensws gan lawer ohonom yn y Siambr hon, ac rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod Syr Ian wedi parhau i gadw at yr egwyddor honno yn yr adroddiad heddiw. Rwy'n credu'n gryf bod addysg uwch yn fuddsoddiad a rennir—buddsoddiad a rennir, ie, â’r rhai hynny a fydd yn elwa'n uniongyrchol o ddilyn addysg uwch—ond, ceir budd i'n cymdeithas hefyd o ran pobl yn penderfynu astudio ar lefel addysg uwch. Mae'n fuddsoddiad a rennir ac rwy’n falch iawn bod Syr Ian wedi cydnabod hynny yn ei waith ac mae'n egwyddor rwy’n ei chymeradwyo’n llwyr.
Mae Mr Reckless yn gofyn sut y mae hon yn system flaengar. Mae hon yn system flaengar gan y bydd yn mynd i'r afael â'r prif bryder ar gyfer myfyrwyr ar hyn o bryd—mai costau byw ymlaen llaw yw’r rhwystr mwyaf o ran mynd ymlaen i astudio mewn addysg uwch. Y gallu i oroesi o wythnos i wythnos, i gynnal eich hun yn y brifysgol, dyna'r rhwystr mwyaf. Ac yn y system hon, bydd ein myfyrwyr mwyaf difreintiedig, neu'r rhai sydd wedi bod yn rhan o’r system ofal, neu'r rhai sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni, yn derbyn grant cynhaliaeth, na fydd angen ei ad-dalu, sy'n cyfateb â'r isafswm cyflog. Dyna yw hanfod system flaengar. Os na allai gydnabod hynny, yna nid oes dim byd y gallaf ei wneud i'w helpu. Nid oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i'w helpu. Dim byd o gwbl.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn egwyddor bwysig, sydd wedi’i chymeradwyo gan Syr Ian heddiw, y dylai’r system hon fod yn wirioneddol gludadwy. Fel yr wyf wedi ei ddweud wrth ymateb i gwestiynau yn gynharach, nid wyf am roi cap ar uchelgais myfyrwyr o Gymru. Ceir sefydliadau addysg uwch ardderchog yn ein gwlad ni y gall pobl astudio ynddynt, ac mae llawer yn y Siambr hon wedi elwa arnynt. Ond, mae yna fyd mawr y tu allan i Gymru hefyd ac os yw myfyrwyr eisiau achub ar y cyfle i astudio mewn sefydliadau yng ngweddill y DU, yr Undeb Ewropeaidd neu rannau eraill o'r byd, yna rwyf am gael system sy'n caniatáu iddynt wireddu eu breuddwydion a’u huchelgeisiau. Os ydynt yn ddigon da i gael eu derbyn i ba bynnag sefydliad, yna dylai’r system hon eu cefnogi. Byddaf yn ystyried sut y gallwn wireddu hynny ar gyfer myfyrwyr.
O safbwynt cymhelliant, mae'n argymhelliad o fewn yr adroddiad. Rwy'n croesawu'r argymhelliad hwnnw. Rwy’n credu ei bod hi’n werth pwyso a mesur yr hyn y gallwn ni ei wneud i gymell myfyrwyr i aros yng Nghymru ac arfer eu gwaith, i gadw’r sgiliau hynny yng Nghymru, neu i ddod â’r sgiliau hynny yn ôl i Gymru. Nid yw'n gwbl ddidrafferth; amlinellir hynny yn yr adroddiad. Ond nid yw y tu hwnt i grebwyll y Llywodraeth hon, gan weithio gydag eraill, i ffurfio system sy'n gallu cyflawni'r nodau hynny. Rwyf wedi gwneud cynnig diffuant i lefarydd Plaid Cymru i weithio gyda nhw i ystyried pa gynllun y gallwn gytuno arno a fydd yn gwneud hynny. Ceir materion ymarferol i'w goresgyn. Ond, fel y dywedais, nid ydyw y tu hwnt i’n crebwyll ni i allu cytuno ar gynllun, a dyna beth yr wyf yn bwriadu ei wneud.