Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 27 Medi 2016.
Mae'r grŵp adolygu wedi dechrau ar ei waith a bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 6 Hydref. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad ac yn cyhoeddi camau gweithredu sy'n deillio o argymhellion y grŵp adolygu yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Gyda'i gilydd, bydd y gronfa driniaethau newydd a'r adolygiad o'r broses IPFR yn arwain at newid gwirioneddol yn y ffordd y mae cleifion yng Nghymru yn cael mynediad at feddyginiaethau arloesol. Rwy’n disgwyl gwelliant gwirioneddol yn y gwasanaeth y mae cleifion yn briodol yn ei ddisgwyl gan y GIG yma yng Nghymru.