Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 27 Medi 2016.
A gaf i groesawu’r datganiad yma? Rydym ni’n siarad yn y fan hyn am ddwy elfen, rydw i’n meddwl, o wendidau yn y ddarpariaeth iechyd sydd ar hyn o bryd yn arwain at rwystredigaeth ymhlith cleifion a’u teuluoedd, a lle mae yna wir deimlad bod yna, mewn rhyw fodd, annhegwch yn y system. Mi rof i sylw yn gyntaf i’r cyhoeddiad ynglŷn â’r adolygiad annibynnol o’r broses ceisiadau cleifion unigol. Mi oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn sicr yn teimlo’n gryf ei bod hi’n amser edrych eto ar y maes yma, ei fod o’n faes yr oedd angen datrysiad iddo fo, a datrysiad cynaliadwy. Roeddwn i’n falch ein bod ni wedi gallu cynnwys yr addewid i fwrw ymlaen â’r adolygiad yma yn ein cytundeb ôl-etholiadol ni, ac rwyf i wedi bod yn falch o allu cydweithio efo’r Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau ein bod ni’n symud ymlaen ar hyn yn fuan.
Nid ydy hi’n deg fod cydsyniad yn gallu cael ei roi mewn un ardal ddaearyddol o Gymru tra nad yw cydsyniad yn cael ei roi ar gyfer triniaeth mewn rhan arall o Gymru. Nid ydy’r broses o brofi eithriadolrwydd neu ‘exceptionality’ yn deg. Mae gormod o bobl ddifrifol wael wedi gorfod brwydro brwydrau biwrocrataidd pan fo materion clinigol yn unig a lles yr unigolyn dan sylw ddylai fod wrth wraidd unrhyw benderfyniad. Rŵan, wrth gwrs, nid oes angen i fi barhau i ddadlau’r achos yma oherwydd bod gennym ni’r adolygiad annibynnol.
Mi oeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i gwrdd ag Andrew Blakeman. Mi gefais i fy argyhoeddi yn sicr ei fod o’n mynd i fod yn ymwneud â’r gwaith yma o safbwynt cwbl annibynnol. Rwy’n dymuno’n dda iddo fo, yn gorfod gwneud y gwaith hwn mewn cyfnod byr iawn. Rwy’n gwybod y bydd hi’n her ac rwy’n dymuno’n dda i aelodau eraill y panel hefyd. Ond a gaf i groesawu’n arbennig fod Irfon Williams yn mynd i fod yn aelod o’r panel yma? Mi oeddwn i’n eiddgar i weld hynny’n digwydd. Mae o’n dod â phrofiad proffesiynol, wrth gwrs, o fewn y gwasanaeth iechyd ond hefyd mi fydd o’n sicrhau llais y claf fel rhywun sydd wedi bod drwy’r broses ac wedi teimlo rhwystredigaethau’r broses ei hun.
O ran y gronfa triniaethau newydd, rydym ni a phlaid y Llywodraeth wedi cael rhyw fath o gronfa newydd fel nod ac amcan yn ein maniffestos. Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu symud at ddatganiad buan. Byr iawn ydy’r cyfeiriadau, mewn difrif, yn y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw tuag at y gronfa newydd honno. Mae hynny, rydw i’n meddwl, yn adlewyrchu’r ffaith bod yna gryn waith i wneud eto wrth benderfynu ar ambell elfen ymarferol o sut i weithredu hyn. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn cyfaddef hynny yn ei ddatganiad hefyd, ond mae o’n gosod amserlen dynn.
Felly, mae’r ychydig gwestiynau sydd gennyf i’n ymwneud â’r penderfyniadau a fydd angen eu gwneud o ran y gronfa triniaethau newydd dros y misoedd nesaf. A fydd yna ymgynghoriad byr yn ystod y cyfnod yna o weithio ar y manylion? A gawn ni sicrwydd y bydd data yn cael eu rhyddhau yn llawn ynglŷn â sut y bydd y drefn newydd yn cael ei defnyddio? Pa broses fydd yna hefyd i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn glynu at yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonyn nhw yn ôl y Ddeddf i gyllido triniaethau sydd wedi cael eu cymeradwyo gan NICE, unwaith y maen nhw wedi rhoi’r gorau i fod yn driniaethau newydd? Mae hynny’n bwysig. Hefyd, mae NICE, wrth gwrs, y dyddiau yma, nid yn unig yn cael derbyn neu wrthod triniaethau; maen nhw’n cael dweud ‘efallai’ hefyd. Beth fydd agwedd Llywodraeth Cymru at benderfyniadau NICE sydd yn y categori ‘efallai’ yma?