Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 27 Medi 2016.
Weinidog, diolch i chi am y datganiad hwn. Rwy'n falch iawn o groesawu’r ddwy elfen ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau i'w gofyn, fodd bynnag, a hoffwn i droi yn y lle cyntaf at y gronfa driniaethau newydd yr ydych yn siarad amdani fan hyn. Rydych wedi dweud o'r blaen bod y gronfa driniaethau newydd wedi datblygu o brofiadau Llywodraeth Cymru o reoli triniaethau cost uchel. Y llynedd, er enghraifft, ariannodd Llywodraeth Cymru bedair triniaeth newydd ar gyfer hepatitis C a chlefyd genetig prin, sef syndrom uremic hemolytic annodweddiadol. Rydw i mor falch fy mod wedi gallu dweud hynna. Llywodraeth Cymru oedd yn mynd i ariannu’r triniaethau hynny. A allwch chi gadarnhau, yng ngoleuni eich cronfa driniaethau, bod y pedair triniaeth benodol newydd hynny—pob un yn un gost uchel ac arloesol-bellach i gyd wedi'u hamsugno gan y byrddau iechyd? Y rheswm dros ofyn hyn yw bod fy holl gwestiynau yn ymdrin â mater ariannu, gan fy mod yn pryderu rywfaint a ydynt yn mynd i fod yn gallu amsugno cost y rhain heb gyllid gan Lywodraeth Cymru, o ystyried y diffyg o £75.5 miliwn sydd gennym ar draws y byrddau iechyd ar y cyd.
Nawr, rydych wedi ateb cwestiwn Rhun trwy ddweud y byddech yn dymuno eu gweld yn mynd ati i wneud hynny. Ond yr hyn nad oeddwn yn glir amdano yw hyn: unwaith y byddwch wedi tynnu'n ôl y cyllid ar gyfer cyffur, byddwch yn disgwyl i'r bwrdd iechyd dalu’r gost am hynny. Rydych yn sôn mewn tystiolaeth arall yr ydych wedi’i rhoi ar y pwnc hwn y byddech yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ddilyn blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Beth fyddai'n digwydd pe byddai bwrdd iechyd yn dweud, ‘Ydi, mae hwnnw’n gyffur da, ydym, rydym wedi ei gael ers blwyddyn, do, bu’n effeithiol mewn rhai meysydd, ond ni allwn fforddio i flaenoriaethu hynny yn y ffordd y byddech chi’n dymuno iddo gael ei flaenoriaethu '? Roeddech yn ei ariannu pan oeddech yn ei ariannu, ac roedd yn iawn, ond nid ydych bellach yn ei ariannu. Felly, mae wedi dod yn gost ariannol i'r bwrdd iechyd. A fyddwch chi naill ai yn rhoi cyllid ychwanegol iddynt —a dyna beth na allwn i ei ddeall yn iawn o’ch ateb i Rhun—neu a fyddwch yn cyhoeddi cyfres lem iawn o ganllawiau sy'n dweud, 'Nawr ein bod wedi treialu’r cyffur newydd, ei fod wedi ei dderbyn gennym ni, ei fod yn rhan o'r gronfa triniaethau newydd, a’i fod bellach yn mynd i fynd i mewn i’r prif ffrwd’—er, yn amlwg, bydd y defnydd yn brin, oherwydd fel arall ni fyddai yn y gronfa hon—'mae’n rhaid i chi, yn syml, ddod o hyd i'r arian ar gyfer y gwaith eich hun a’i flaenoriaethu'. Byddai rhywfaint o eglurder yno yn ddefnyddiol iawn. Rwyf wedi defnyddio’r triniaethau blaenorol a ariannwyd gennych y llynedd ar gyfer yr hepatitis C ac aHUS er mwyn deall ble maen nhw wedi mynd. A ydynt wedi cael eu hamsugno gan y byrddau iechyd? A fyddant yn dal i fod yn y gronfa driniaethau newydd? A fydd rhai cyffuriau bob amser yn y gronfa driniaethau newydd ar gyfer ariannu, gan eu bod mor brin ac / neu mor ddrud, er eu bod yn cael canlyniad da? A fydd Llywodraeth Cymru bob amser yn cyflwyno rhywfaint o arian, neu a ydych chi mewn gwirionedd yn gweld yr £80 miliwn hwnnw yn cael ei adleoli bob blwyddyn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar gyffuriau hollol wahanol?
I gloi, fy nghwestiwn olaf ar y gronfa driniaethau newydd yw, pan fyddwch yn edrych ar ddefnyddio’r £80 miliwn hwnnw, a fyddwch yn edrych ar unrhyw bwysoliad rhwng y byrddau iechyd? Felly eto, nid wyf yn hollol glir a fydd y cyllid yn mynd i'r byrddau iechyd ar gyfer y cyffuriau newydd, neu a fyddwch ond yn rhoi'r arian i'r byrddau iechyd unwaith y byddant wedi defnyddio'r cyffuriau. Oherwydd byddwn yn amau y bydd rhai byrddau iechyd, yn enwedig y rhai megis Caerdydd a'r Fro, lle maent yn cynnal mwy o glinigau prin ac arbenigol, yn y pen draw yn rhannu’r cyffuriau hynny ac yn awdurdodi’r cyffuriau hynny yn llawer mwy nag, efallai, Ysbyty Llwynhelyg yn fy ardal i, gan nad oes ganddynt y clinigau prin ac anghyffredin iawn. Yn syml, rwy’n ceisio deall pwy fydd yn gyfrifol am yr arian hwnnw. A fydd unrhyw bwysoliad ymhlith y byrddau iechyd ar y defnydd o hynny?
Gan droi at y rhaglen gyllido cleifion annibynnol, rwy'n wirioneddol falch am hyn. Ydych chi'n gwybod, Brif Weinidog—Ysgrifennydd y Cabinet —